Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.
Cafodd ei fagu yn Annibynnwr a gwyddai'n dda am y dadleuon diwinyddol chwerw rhwng Arminiaid a Chalfiniaid a rwygodd yr eglwys yng Nghefnarthen lle cafodd ei fagw.
Annibynnwr oedd ef, ond ni wnâi hynny lawer o wahaniaeth yn yr oes honno; cadwai brodyr un enwad lygad barcud ar weithgarwch y llall.
Er enghraifft, yr oedd yn Annibynnwr pybyr ac yn ymhoffi yn hanes y tadau.