Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anniddig

anniddig

Yr ydwyt yn ein deffro ni i ymhyfrydu yn dy foliant, oblegid Ti a'n creodd ni i Ti dy Hun, ac anniddig yw ein calon nes gorffwyso ynot Ti.

Edrychai Emli braidd yn anniddig, a hytrach yn betrus hefyd.

Symudodd yn anniddig.

Safai Lewis Olifer ac Enoc gyda'i gilydd, a Deilwen a gwraig Enoc yr ochr arall i'r bwrdd, a'r cwbl yn edrych mor anniddig a phe baent wedi cyfarfod â'i gilydd am y tro cyntaf mewn cynhebrwng.

Teimlwn y sewin yn tynnu a phlycian fel ci anniddig wrth gortyn.ym mherfeddion y pwll.

Ond roedd pob ffôn yn yr hen adeilad mawr hyll yn brysur, a nifer fawr o bobl yn sefyllian o gwmpas yn anniddig yn disgwyl eu cyfle i ffonio.

Ieuenctid anniddig a henoed cysglyd yn cyd-lawenhau.

Crisialwyd yr holl gyffro anniddig hwn drwy'r byd yn y gerdd ' I'r Anniddig', un o gerddi'r dilyniant a enillodd y Goron i Dafydd Rowlands yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint ym mlwyddyn yr Arwisgo.

Daliai hi i gael pyliau anniddig ynglŷn â'i ymddygiad pan ddarganfu lun ei wraig ac 'roedd sicrwydd di-lol Lleucu'n ei sicrhau hithau hefyd.

Rhoddir gwybodaeth am ei hynafiaid anniddig yn Eifionydd, y gymdogaeth y maged ef ynddi, a'i gysylltiad â Chrug yn Isgwyrfai a Dolwyddelan yng nghwmwd Nanconwy.