Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anniddorol

anniddorol

A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.

Drwy gyfrwng y dechnoleg lanwaith hon, mae muriau'r geudai yn cael eu cadw'n foel a diaddurn - ac anniddorol.

Ond wedi darllen pennod Mr Steffan Griffith ar achau Waldo, meddyliais nad anniddorol fuasai cyfeiriad neu ddau at rai o aelodau'r teulu nodedig hwn fel tamaid i aros pryd.

Anniddorol iawn yw rhyw rhwng dau riant gyda 'DNA teithio'.

Digwyddiad, nid anniddorol ac nid llenyddol ddibwys o bell ffordd, oedd ei ddarganfyddiad o darddiad un o ganeuon adnabyddus Islwyn--"Seren Heddwch".

Pob un eisiau gwybod sut i wneud gwers anniddorol yn ddiddorol.

Ond rhyw ysbrydion amwys, anniddorol oedd y rhain - rhyw greaduriaid ffansi%ol, yn symud fel pe o dan blanced wen, ac mor ddigymeriad fel nad oedd modd gwybod eu rhyw, hyd yn oed; ac yn wir doedd dim sicrwydd fod ganddyn nhw ryw.

Dyw'r ymosodwyr ddim yn ddigon galluog i ddryllior amddiffyn ac yn dilyn hyn gwelwch gemau anniddorol syn ein suo i gysgu.

Er cystal y cymeriadau, nid oes lawer o linyn cyswllt rhwng y penodau -- ond y berthynas ddigon anniddorol erbyn hyn rhwng Tom y Capten, ei wraig newydd, Wend., a'i gyn wraig, a'i ferch.

Byddai hynny'n golygu gwaith mwy anniddorol a chyfyng na chyfieithu, ac yn ein caethiwo gormod.

Bu'r Comisiwn Coedwigaeth yn plannu gwinllannoedd bytholwyrdd ac anniddorol ar Fynydd y Rhiw a Mynydd Cefnamwlch ac ambell i safle ddiffaith arall.

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn galw'r fath dirlun yn un hollol undonog ac anniddorol, ond o dan yr wyneb, ac o gwmpas yr ymylon cawn stori hollol wahanol.