Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annifyr

annifyr

Safai yn ei hunfan, yn oer, annifyr ac yn gwybod yn ei chalon mai y fo oedd yn llygad ei le.

Ers dau neu dri o berfformiadau bellach rwyf wedi cael rhyw hen deimlad annifyr ym mêr fy esgyrn fod cwmni Bara Caws wedi chwythu'u plwc.

Pam roedd rhaid i ferched fod mor annifyr bob amser?

Taith annifyr a gafodd o'r naill orsaf i'r llall.

'Am hen sŵn annifyr peiriannau, ogla drwg yn dwad o'r ffatri, y blerwch .

Yn syth ar ôl hyn fodd bynnag digwyddodd rhywbeth annifyr iawn.

Wrth roi help llaw i ddadlwytho un o'r hofrenyddion a oedd yn cludo cymorth i'r mynyddoedd, cefais deimlad annifyr mai dyna o bosib' fyddai fy nghyfraniad mwya' gwerthfawr i dynged y Cwrdiaid.

'Mae 'ma le annifyr iawn.

Ond dydi bod yn Gymro da yn rhywle fel Bradford yn dda i ddim.' ' Mae'n cyfaddef nad peth hawdd o gwbl fu bod yn Gymro Cymraeg yn y Brifysgol ym Mangor yn ystod y blynyddoedd diwethaf: " Mae 'na adega' annifyr iawn wedi bod yn y coleg yma, er bod petha'n well dan y drefn newydd.

Ond pan ddaeth sôn am ryfel rhyngom ni a'r Almaen, wel, fe aeth pethe'n annifyr iawn 'ma, fel y gallwch chi ddeall.

Pan ddeuai'r ferch draw i ymweld ag ef, gwelai Sian ei fod yn awr byth a hefyd a'i fryd wedi'i ennill gan y diddordeb annifyr hwn.

Rwyt ti wedi bod yn anlwcus i gael criw mor annifyr, oherwydd maen nhw'n gallu bod yn ddigon caredig.

Ni fyddai'n breuddwydio mynd i bysgota hebddi rhag ofn iddo gyfarfod ƒ Llew Williams y Cipar, hen ddyn annifyr nad oedd neb yn y pentre yn ei hoffi ...

Daeth gorchwyl digon annifyr i'm rhan ar ôl te, sef gorfod dweud wrth y ferch hynaf þ sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn yr Ysgol Gyfun þ na fedraf fforddio iddi gael mynd hefo criw o'r ysgol i'r Swistir yn ystod gwyliau'r Pasg.

Petai Carol ond wedi gadael i Emyr ei ffonio hi neithiwr, ni fyddai'r un ffrae wedi bod ac ni fyddai hithau'n sefyll yn yr hen le annifyr yma'n disgwyl ei thro i gael ymddiheuro i'w gŵr.

Roedd y lamp ddarllen wrth ymyl y gwely ynghynn tan yr oriau mân, er bod y rheiny'n oriau annifyr, a dweud y lleia'.

"Hen bethau sych ac annifyr ydi llyfrau," meddai wrtho fo'i hun.