Ar y noson dangoswyd dwy allan o'r dros 400 o raglenni a wnaed gan Gwyn Erfyl yn ystod ei gyfnod gyda HTV, un yn darlunio ei gyfaill mynwesol, yr arlunydd Pietro Annigoni wrth ei waith yn Fflorens, yr Eidal, a'r llall, Ewscadi, yn darlunio bywyd yng Ngwlad y Basg ar y ffin a Ffrainc yng ngogledd Sbaen.
Fodd bynnag, yr oedd dau beth a amlygai eu hunain yn fwyaf arbennig - yn enwedig yn y portread o Annigoni - ceinder ac artistri y gwaith ffilmio a sylwedd a dyfnder deallusol y sylwebaeth.