Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annoeth

annoeth

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

Yr hyn i'w gofio yw y gall prynu annoeth olygu eich bod yn llosgi eich bysedd yn ariannol a'ch bod hefyd yn difetha eich gwyliau os nad yw'r garafan yn ateb eich gofynion personol chi.

'Ie, ie,' meddai'r llew'n gyhuddgar, 'fe fuest ti'n annoeth iawn.

Byddai'n gwbl annoeth o dan amgylchiadau felly i gnocio ar ddrws Siwsan Diek.

Dichon fod digwyddiadau fel hyn bellach yn ymddangos yn annoeth, ac hyd yn oed yn blentynaidd, ond maent yn dangos fod y berthynas rhwng Ferrar a phrif glerigwyr ei esgobaeth wedi mynd yn bur wenwynllyd.

) Ond yr oedd wedi bod yn annoeth, yn rhoi lle i bobl faleisus gychwyn straeon trwy fynd â chwpanaid o de yn y bore i'r bydwragedd yn eu hystafell wely a rhoi cusan bore da iddynt.

Mae llais ochr arall y ffôn yn ei rybuddio fwy nag unwiath taw annoeth fyddai parhau gyda'r ymchwil, ond mae styfnigrwydd, ymhlith ffactorau eraill, yn sicrhau bod Alun yn glynu'n ddygn at ei stori.