Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anobaith

anobaith

Welais i erioed ddyn wedi suddo i anobaith mor ddifrifol o'r blaen.

Trosiad hir yw'r gerdd, ymysg pethau eraill, mae mor gyfoethog ei hawgrymiadau, o'r gynhaliaeth ysbrydol sydd i feidrolyn i wynebu ei feidroldeb yn ei aml boen a'i siom a'i anobaith.

Dyma ddelwedd o amhosibilrwydd dysgu, anobaith athro, argyfwng addysg.

Roedden nhw mewn anobaith.

Roedd yr undebau, fu'n chwarae rhan mor allweddol yn hanes Ariannin, yn rhag-weld dadfeiliad y wlad wrth i fwy a mwy o bobl suddo i dlodi ac anobaith.

Rhoddodd Caradog ei law mewn anobaith yn un o logellau ei fantell - ac ymaflyd mewn cwdyn.

Roedd anobaith yn ei lais.

Gwasgodd ei droed yn ddyfnach ar y sbardun, a wyliodd Gareth mewn anobaith wrth i'r nodwydd basio'r nawdeg a thynnu am y cant.

clywodd ef yn glir : y gair wedi ei lusgo a rhoi iddo don ymbilgar, sw ^ n anobaith.

Pan ddaw'r glaw eto i yrru i lawr drwy'r bwlch, neu pan ddaw'r niwl drachefn i or-doi'r arlwy o brydferthwch sydd o'm cwmpas heddiw, fe'm hyrddir unwaith eto i bwll o iselder ac anobaith.

Mae'r argyfwng yn parhau ac mae 'na anobaith ymysg yr if anc ynglŷn â'r dyfodol.

Ond meddiannwyd eraill hefyd, gan ofn a phryder ynglŷn â'r posibilrwydd nad oedd dim yn y pen draw a oedd yn werth marw er ei fwyn, a phan ddeuai'r Rhyfel i ben, oni ddeuent o hyd i ystyr bywyd o'r newydd, syrthient yn ôl i gyflwr o ddifaterwch neu anobaith, wedi eu gorthrymu gan ddiflastod ac oferedd bywyd.

Pan oedd ein cyndadau wedi eu llethu gan anobaith, cawsant eu bywioca/ u gan rym atgyfodiad Pen Mawr yr Eglwys.

Neges anobaith oedd gan hwn hefyd, ac nid oedd gan Gristnogaeth ddim i'w ddweud wrtho: Rhith yw geiriau y gau ŵr a'th garodd, Y gŵr a'r hoelion y gŵr a wylodd.

Y mae'r anobaith a'r dicter a ddaw yn sgil y dirywiad cymdeithasol hwn yn mynegi ei hun yn aml trwy gyfrwng fandaliaeth, alcoholiaeth, cyffuriau a thrais etc.

Cristion yng Nghors Anobaith = fi fy hun mewn iselder ysbryd ac yn gwangalonni yn fy Nuw.

"Mae Cyngor y ddinas yn trio ond dydech chi ddim yn ennill pleidleisiau trwy helpu'r digartref nad ydych?" All o ddim ond dyfalu beth sy'n mynd trwy feddyliau y bobl hynny fydd yn ddigartref dros y : feddy "Un o nodweddion amlycaf y digartref yw anobaith.

Llefodd un bardd mewn anobaith.

Ac a allwn ni ddiystyru'r anobaith ingol a fynegodd Jeremi Owen mor huawdl yn ei Ddyledswydd Fawr Efengylaidd?

Heb unrhyw amheuaeth, yr oedd y Rhyfel yn grwsâd yn erbyn rhuthr y gwrth Dduw Natsi%aidd, a gelyn rhyddid, ond ymofidiodd am fod canlyniadau'r Rhyfel, sef casineb, rhagfarn, bydolrwydd, anobaith, colli ffydd yn Nuw a dyn, pylu'r ddeddf foesol a diystyru'r ysbrydol ar gynnydd.

Ond rydych chi'n anghofio, gyfaill, ei bod hi wedi costio'n ddrud ddychrynllyd iddo Fo i'ch codi chi o bwll pechod ac anobaith.

Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.

Ar ôl disgleirdeb y gweledigaethau hyn syrthiai'r carcharor i anobaith a digalondid.

Edrychodd Gerallt Lloyd Owen, yn ei awdl fuddugol, ' Cilmeri ', yn Eistedfod Abertawe, 1982, yn ôl dros saith canrif at ddiwrnod arall o anobaith i Gymru.

Goddiweddwyd y Lluoedd Arfog gan ymdeimlad o anobaith oherwydd eu hofnau ynglŷn â'r dyfodol.

PAN gyrhaeddais i gyntaf a gweld cymaint o ffrindiau yr oedd pawb gyda Suzi a Sigrid, ro'n i'n teimlo ychydig o anobaith a fyddwn i byth yn cael fy nerbyn fel nhw?

Mae'n nhw'n dymuno byw'n ddi-enw, yn disgyn i sbeiral anobaith ac, oherwydd ofn unigrwydd ac ansicrwydd yn colli eu hunaniaeth."

Cais pob un, yn chwerw yn anobaith y dychweledigion diymadferth, symud y bai i rywle.

Yn yr anobaith parhaol hwnnw y magwyd cefnogaeth i Saddam Hussein.