Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anobeithio

anobeithio

blyb ac mi ddaw'r hen gath i lawr fel bwlet a heibio fi i'r tŷ.' Mae rhyw dueddiad ynof i anobeithio pan na fydd pethau yn dwad yn rhwydd, a daw Robin Tŷ Mawr i'm meddwl.

Ac yn ei blaen yr aeth â'i brwydr, gan ymweld yn gyson â Lewis, a'i gael yn anobeithio ac yn fwyfwy chwerw.

Ond doedd Dickerson a Llanelli ddim wedi anobeithio.

Yn ôl tystiolaeth un meddyg y bu+m i'n siarad â hi, roedd rhai mamau wedi anobeithio ac wedi troi cyrn gyddfau'u plant er mwyn arbed eu maeth a'u nerth eu hunain.

Ar ôl colli yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd mae gobeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol wedi pylu, Ond nid yw Ryan Giggs wedi anobeithio'n llwyr.

Roeddwn ar fin anobeithio'n llwyr pan gododd y meindar yn flinedig a mwmian rhywbeth am yr amser prin a gâi yng nghwmni ei deulu.

Ond y noson honno, â'r plismyn wedi anobeithio cael hyd i'r hofrennydd coll, y dringwyr wedi rhoi'r gorau i chwilio amdano a phawb wedi dychwelyd i'w cartref yn ddigalon, yr oedd rhywrai yn chwerthin yn braf am eu pennau.

'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio.

Ydy', wrth gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio.

Cymer drugaredd ar y rheini ymhlith ein pobl ifainc sydd ar ddisberod ac mewn ing ysbryd, rhai yn gaeth i gyffuriau, rhai yng nghrafanc alcoholiaeth, rhai'n distrywio eu bywyd trwy drachwant, rhai'n anobeithio am na allant gael gwaith a rhai'n teimlo fod bywyd yn wag a diystyr am eu bod yn gwrthod goleuni'r Efengyl.

Cyfaddefodd un iddo anobeithio wedi deg tudalen.

Mae'n debyg ein bod yn dechrau anobeithio tua'r adeg yma, ond er hynny, 'r oeddem yn sicr fod ein hachos yn un cyfiawn, ac na fyddai dadl addysgol na dadl am gostau yn peri i ni newid ein meddyliau bellach.