Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anorfod

anorfod

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Bron yn anorfod ar ôl rheolaeth haearnaidd y Sofietiaid, roedd rhyddid cenedlathol a rhyddid economaidd yn cael eu gweld yn un.

Un yn unig sy'n gweld diwedd anorfod y daith, a hwnnw ydy Ned druan.

Eto, nid oes dim byd anorfod am dranc y Gymraeg.

Ymwneud â'r masg anorfod a wisga dyn, y diffyg cyfathrebu sy'n bodoli yn ein mysg, osgoi a methu wynebu realiti, twyllo a dweud celwyddau, a'r dirgelwch sy'n bodoli ynglŷn â dyn.

Y maent ill dau'n dilyn prosesau anorfod.

Llyfnhawyd yr ochr uchaf ac fe blyciwyd darnau'n rhydd o'r ochr isaf, serth, gan rym anorfod y rhew.

Mewn byd cwbl fecanyddol nid oes na gwir na gau, dim ond yr anorfod.

Y demtasiwn fawr ar hyn o bryd, wrth geisio esbonio'n hanesyddol sut y daeth y Diwygiad Efengylaidd, yw dadansoddi'r daioni a'i rhagflaenai a thynnu'r casgliad fod y Diwygiad yn gynnyrch anorfod y daioni hwnnw.

A chan fod Harris yn wr felly, a'i law ar y seiadau'n trymhau gyda threiglad amser, yr oedd gwrthryfel yn anorfod.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Oedi anorfod wrth godi gwersylloedd, yn hytrach na chreulondeb bwriadol, oedd yn gyfrifol am ddioddefaint y trueiniaid ar strydoedd Piranshahr.

Yr oedd ysgariad yn anorfod hyd yn oed wedyn.

Yn Ciwba y cefais fy mhrofiad cynta' o'r minder, y gwarchodwr hwnnw sy'n rhan anorfod o ffilmio mewn amryw o wledydd tramor.

Dylid osgoi gosod un iaith uwchben y llall, ond, os yw hyn yn anorfod dylai'r Gymraeg ymddangos uwchben y Saesneg.

Ymddangosant yno gyda'i gilydd, ochr yn ochr, mor anorfod â phetasent yn efeilliaid Siamaidd, er bod lled y wlad wedi'u gwahanu erioed.

Mae ynddo rym yr anorfod; grym ffaith; grym mawredd real y pellterau, y galaethau a'r nifylau tan, grym y cwriciau y mae disgyrchiant y ser niwtron yn ei beri i Amser.

Ar wahân i Ystorya Trystan, sydd yn bryfoclyd o fyr ac yn anodd ei ddyddio, y cwbl sydd gennym yw'r cyfeiriadau yn y Trioedd a chan y beirdd, cyfeiriadau sydd, oherwydd eu cyd-destun, yn anorfod yn gwta iawn, er eu bod yn awgrymu fod stori fanylach y tu ôl iddynt, stori a fyddai'n gyfarwydd i'r bardd a'i gynulleidfa.

Roedd y chwalfa yn anorfod efallai.

Gydol ei oes gyhoeddus, hefyd, dadleuodd bod anufudd-dod dinesig yn anorfod yn y frwydr genedlaethol yng Nghymru.

Saesneg oedd iaith fy ffrindiau i gyd, hyd yn oed y rhai a âi i'r un capel â mi; Saesneg a siaradwn bob amser â'm brawd am chwaer; yn wir, Saesneg oedd iaith yr aelwyd i raddau helaeth iawn, yn anorfod felly, gan fod yno gymaint o fynd a dod a chynifer o'n hymwelwyr yn Saeson neu'n dramorwyr.

Canlyniad hyn oll, yn anorfod, fu glastwreiddio Cymraeg y Cymry.

Mae pob beirniadaeth yn anorfod bersonol, yn ei chyfyngu ei hun i farn un person arbennig.

Y Saesneg oedd piau pob polisi ac nid oedd neb o bwys yng Nghymru na dderbyniai'r drefn anorfod.