Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anos

anos

Bydd yn gêm ddiddorol, ychydig yn anos na'r gynta ond gêm ddylai'r Llewod ennill.

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Ond gan iddynt fod yn dyst i wyrth porthi'r pum mil digon anodd yw deall eu syndod, ac anos yw deall eu caledwch a'u dallineb ysbrydol.

Mae'n dechrau gyda'r wyddor ac yna daw ymarferion i'r disgyblion, yn dechrau gyda brawddegau syml ac yn mynd yn anos o wers i wers.

Mae hyn yn ei dro wedi creu atgasedd, a thrwy hynny wneud y posibilrwydd o gymod rhwng y ddwy garfan yn anos fyth.

Roedd yn rhaid siarad cyn i bethau fynd yn anos fyth.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Tasg anos na'r tair arall?

Beth oedd yn anos na mygio, na lladrata?

Y mae ail- adeiladu seiliau cymdeithas yn dasg anodd, y mae adfer iaith sydd yn llithro o'n gafael yn dasg anos fyth.

Efallai y dylid gwneud y cwestiynau ryw 'chydig yn anos er mwyn roi ychydig mwy o sialens i'r cystadleuwyr.

Ond er iddi fynd ati i geisio'n goleuo; wedi llwyddo y mae hi i sgrifennu llyfr sydd cyn anodded i'w ddeall - os nad yn anos i'w ddeall - na'r gweithiau gwreiddiol mae'n ceisio eu hegluro.

Y mae'r Papur Gwyn yn cynnig tameidio'r cyfrifoldebau dros y system addysg yng Nghymru, felly, gan wneud yn anos sefydlu darpariaeth gyd-lynus o'r bôn i'r brig a fyddai'n rhoi hyder i'r disgyblion a'u rhieni fod y ddarpariaeth briodol wedi'u sicrhau ar eu cyfer.

Anos fyth deall pam y byddai arweinydd y Blaid Geidwadol yng ngwledydd Prydain yn gweld rhinwedd mewn gwneud hynny.

A byddai hynny yn gwneud cyflawni'r gwaith t, rhywbeth y mae Lisa wrth ei bodd yn ei wneud, ychydig yn anos hefyd.

Mae polisiau tai a datblygiadau economaidd wedi ei gwneud yn anos i bentrefi barhau i gynhyrchu cenedlaethau newydd o ddisgyblion ysgol.

Mae'r cwestiwn yn un teg, a gallwn ymhelaethu ar y mathau ar newidiadau sydd wedi ei gwneud yn anos cynnal yr hen drefn.

Ac roedd ei ddirmyg yn anos ei oddef am ei bod hi'n gwybod nad rhyddhad a deimlodd - ond siom!

Mae disgwyl i Gymru ennill a mae'n gyfle cynnar i'r chwaraewyr i gyd i sicrhau eu llefydd yn y tîm ar gyfer y profion anos i ddod.

Ynghyd â darparu'r cyfleoedd ychwanegol y cyfeirir atynt uchod, rhaid sefydlu'r arfer o ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth ymysg plant pan fônt yn yr ysgol; mae'n anos newid arferion wedyn.

Ymddengys mai bwriad diweddaraf y llywodraeth yw ei gwneud hi'n anos inni gael meddyg ganol nos.

Ond anos o lawer oedd sicrhau newidiadau ym meysydd fel tai a thwristiaeth nag ymgyrchoedd symlach eu nod a'u hapêl fel mynnu ffurflenni neu arwyddion ffordd dwyieithog.

Byddai dod o hyd iddi, heb sôn am ei ffilmio, dipyn yn anos nag ydoedd yn achos Siwsan Jablonski.

Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.

Mae'n anodd i wleidyddion, mae'n anodd i academyddion, ond mae'n anos i lenorion gan y gall dewis sgrifennu yn yr iaith sydd agosaf at eich calon olygu aberth mawr, aberth ariannol wrth gwrs, ond aberth llawer dyfnach ei arwyddocad hefyd.