gweithred o drosedd yw pob rhyfel, gan gynnwys rhyfel amddiffynnol, a phan eir i ryfel, meddai, ystyriwch hyn am funud : yn ôl pa safon neu wrth pa fesur yr ydych am reoli eich dialedd fel na fydd yn gallu bod yn fwy na'r union daliad sy'n ddyledus ichwi am yr hasliau a dreisiwyd neu'r anrhydedd a sarhawyd ?
Daeth anrhydedd a chlod i ran cerddor ifanc o Lanfairdechan, sef John Williams, mab Mr a Mrs Leslie Williams, Tegla, Bangor, ac ef a gyfansoddodd um o'r Carolau.
Un o Bort Talbot oedd ef ac ar ol gweithio yn y diwydiant dur aeth i Goleg Harlech ac yna i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Almaeneg a chael gradd ychwanegol ag anrhydedd uchel mewn athroniaeth.
Mae'n debyg mai fy awr fawr i ar lwyfan oedd ychydig fisoedd yn ôl fel Doctora mewn sgets yn Esquel, Patagonia - lle cefais yr anrhydedd o fod yr unig feddyg benywaidd gyda barf yn y Wladfa i gyd.
Roedd yn anrhydedd mawr pan ymddangosodd pedwar gwleidydd blaenllaw sef Mary Robinson, Mikhail Gorbachev, Eduard Shevardnadze a Lech Walesa mewn rhaglen arbennig, Dathliad Gwag? a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Cymru gan y cwmni annibynnol, Quadrant.
Am flynyddoedd gwrthododd y Brifysgol roi eu tîm cyntaf allan yn ein herbyn gan ddweud nad oeddem yn deilwng o'r fath anrhydedd, ond un flwyddyn fe gawsom gêm yn erbyn eu tîm cyntaf, ac er iddi fod yn gêm galed, cafodd y Brifysgol gweir.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Yr oedd yr un mor gartrefol yn Seremoni%au Graddau Er Anrhydedd y Brifysgol ag ydoedd ar ystlys cae rygbi Bethesda ac yn y stand yn Anfield.
Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.
Segurdod yw clod y cledd, A rhwd yw ei anrhydedd.
Roberts, cadeirydd y Cyngor Llyfrau Cymraeg, mai hwn oedd yr anrhydedd mwyaf y gellid ei gynnig i awdur llyfrau plant yng Nghymru.
Fel roeddwn i'n dweud, cyfrwng sarhad a sen rhyfedd iawn - gwisgo megis mewn anrhydedd enw eich gelyn.
Fe gurodd e Luis Figo o Bortiwgal a Rivaldo o Brazil i gipio'r anrhydedd.
Dylai'r anrhydedd o agor y Llyfrgell fynd i rhywun sydd wedi cyfoethogi ein bywydau.
Mae Ryan Giggs ar restr fer Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol am yr anrhydedd o Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn.
Rhoddai'r argraff fod popeth a wnâi ac a ddywedai cyn bwysiced â dim a gyfrannodd erioed, a'i fod yn anrhydedd o'r mwyaf iddo gael ei roi ac i arall gael ei dderbyn.
Diolch fod y Brifysgol wedi cydnabod ei gyfraniad trwy roi iddo Radd Meistr yn y Celfyddydau er anrhydedd.
Darlunnir Efnysien yn rymus hefyd, gŵr a lywodraethir yn llwyr gan y syniad hwn o anrhydedd personol sy'n troi mor hawdd yn falchder eithafol.
Ceir llawer o draddodiadau ar lafar gwlad a dywed un ohonynt i eglwys gael ei hadeiladu yn y chweched ganrif o barch ac anrhydedd i Dewi Sant.
Mae Manawydan a Llwyd, ill dau, yn adennill yr hyn a oedd yn nesaf at eu calonnau, mae anrhydedd y naill a'r llall heb niwed, ac ni chollir diferyn o waed.
yr un oedd ei hynt ym mhob un o'r gwledydd yr ymwelodd â hwynt ; derbyniad gwresog i'w ddyfais, ac anrhydedd iddo yntau yn amlach na na.
Phillips, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru Cyflwyniad Carwn yn gyntaf ddiolch i'r Gymdeithas am roi'r anrhydedd i mi drwy fod yn Llywydd Anrhydeddus am eleni.
Rhyw ddau neu dri sydd yn gwneud gradd anrhydedd yn yr adran eleni, er enghraifft.
Fi gafodd anrhydedd amheus y gorchwyl o brofi'r ddyfais.
Darlledwyd fersiwn Cymraeg o'r hanes hwn o ddewrder, cariad ac anrhydedd ar S4C ddeuddydd yn ddiweddarach.
Braint ac anrhydedd yw fod y frenhines yn dod i Aberystwyth ddydd ola' Mai.
Ydi ynta'n 'i chyfri hi'n anrhydedd i ddwad aton' ni?" Pam, o pam y mae'n rhaid i mi siarad mor watwarus?
Gwerthfawrogodd yr anrhydedd o gael bod yn ddiacon ffyddlon a gwasanaethgar.
Mewn llythyr yn Y Cymro mae'r Athro DJ Bowen (un sy'n haeddu'r anrhydedd ei hun) yn cynnig enw Meredydd Evans.
Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.
Cynan oedd y cyntaf i gael yr anrhydedd am yr ail dro.
ac arddel teg urddas' a'r fangre lle 'y rhed gryn anrhydedd; gras glân'; a dyrchafwyd y penteulu yntau'n ŵr o 'lendid a ffyddlondeb'.
Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.
Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.
Pe dywedem na buasai gwneud pob ysgrifennydd cyffredinol a fu i'r Brifwyl yn farchog ar ddiwedd wythnos gyntaf Awst yn ddigon o anrhydedd iddo ni buasem yn dweud gormod.'
Mater o anrhydedd oedd glynu wrth ei ddewis fel gelen.
Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau hefyd iddi gael sgwrs a Chapt.Lewis-Jones ynglyn a hyn, ac y teimlai y byddai'n anrhydedd iddo ddyfod yn noddwr Canolfan Gynghori Meirionnydd.
Pregethu Pan drown i roi sylw i nodweddion y Diwygiad, rhaid rhoi'r lle anrhydedd i bregethu.
Mae llawer ohonynt wedi arwyddo llythyr agored at swyddogion y Llyfrgell yn gofyn iddyn dynnu'r gwahoddiad yn ôl a chynnig yr anrhydedd i rhywun mwy cymwys.
Bu hi'n astudio yng Nghaerdydd, gan raddio gydag anrhydedd mewn Ffrangeg, a does dim amheuaeth na chyfnerthodd hi gryn dipyn ar gydnabyddiaeth ei gŵr a llenyddiaeth Ffrainc.
Meddylwyr mawr, pregethwyr o fri, beirdd ac awduron na ddileir eu henwau fyth o restr anrhydedd ein gwlad.
Dyna pam y gwnaed yr awdur, JK Rowling, yn aelod er anrhydedd o'r BWMA - British Weights and Measures Associaction - cymdeithas sydd a'i bryd ar ddiogelu'r peint a'r chwart a'r pwys a'r owns.