Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.