Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.
Cofiwn hefyd mai galwedigaeth ansefydlog oedd y weinidogaeth yn y cyfnod hwn, yn enwedig i'r sawl nad oedd ganddo ffynhonnell arall o incwm i'w gynnal ef a'i deulu.
Yr oedd y lliain mor glaerwyn, y grefi mor ansefydlog, llygaid Anti Lw a'r misus mor dreiddgar, fel y byddai'n amhosibl bron i mi ddod trwy'r cinio'n ddidramgwydd ac yn ddigonol.
'Cymysg dra', ie, ond nid anwadal nac ansefydlog.
Priododd yntau; a disgynnodd ar unwaith yng nghanol trafferthion hollol newydd iddo - amaethu tyddyn mynyddig, digon drud, a magu tyaid o blant, ymwneud â masnach ansefydlog a phorthmyn celwyddog.