Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ansicr

ansicr

safodd y pedwar i weld eu llongau 'n taro 'r dŵr ^ r ac yn troi 'n ansicr i nofio i lawr yr afon, ac yna rhedodd y bechgyn nerth eu traed tua 'r fan lle cymerai 'r afon dro llydan, braidd fel pedol ar ymyl y ffordd ac yn ôl wedyn.

Mae e 'chydig bach yn ansicr - sa i'n gwbod lot am y peth.

Rhowch im eiliad neu ddwy eto.' Troes y fydwraig yn ol i'r llofft flaen, a'm tad yn dal i oedi'n ansicr ar y grisiau; ond cyn hir clywodd ei llais awdurdodol yn ei alw i mewn i'r ystafell.

Ar ddiwedd fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr PDAG hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Cadeirydd, i aelodau'r hen bwyllgor a'r newydd, i aelodau'r amrywiol weithgorau, i'm cydweithwyr yn y swyddfa ac i bawb a gyfrannodd i waith y pwyllgor o'i ddechreuad ansicr dair blynedd yn ôl.

ac mae'n bosibl mai rhagweld dyfodol ansicr yn Awstralia fu'n rhannol gyfrifol am farwolaeth Twm Polion.

Chwarddodd yn ansicr.

Mae yn siwr na wnaeth fy argymhelliad ansicr yn oriau mân y bore ddim llawer o ddrwg i'r un o'r ddau felly.

Mae ei identiti mor ansicr ag eiddo'r dyweddi yng 'Nghan y Caniadau'!

Mae acw wydd, o oedran ansicr, wedi dwad acw o'r Fferam - Huw Huws wedi cael ei daro'n sydyn gan ffit o gariad brawdol, ac fel rhoddwr y wledd mae o'n un o'r gwahoddedigion.

Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.

Yr oedd yr hyn a gyhoeddodd ef cyn hynny yn dal yn gymysglyd o ran cyfeiriad a braidd yn ansicr, ac yn drwm o dan ddylanwad cywair esthetaidd Pater .

Fe gei di wthio'r bygi a ga i ddal tennyn Cli%o,' eglurodd yn ansicr.

Yn wir, mor ansicr yw'r athrawon nes y maent yn datblygu tuedd i gyflwyno rheolau llymach hyd yn oed nag y mae'r awdurdodau yn eu harbed rhag trafferthion fel rhai Kleff.

Byd ansicr iawn yw un y pêl-droediwr hefyd.

Wedyn dyna J. Elones yn ei ddilyn gan gefnu ar swydd dda a diogel fel athro yn Llundain am swydd, ansicr yr adeg honno, fel Ysgrifennydd a Threfnydd y Blaid a'i gyflog yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol.

Roedd yn dal yn ansicr iawn o'i theimladau tuag ato ac felly'n swil yn ei gwmni'r dyddiau hyn.

Yn anffodus, mae'r agwedd benagored yn swnio'n betrusgar ansicr, ac yn debyg o gael ei beirniadu oherwydd ei hanwadalwch.

Wrth gwrs, ni welai ddim - dim ond gorwel llwyd, ansicr, ac ymchwydd ewynnog y tonnau cecrus.

All neb ei feio am hynny ond roedd ei gyflwyniad yn fler a'i afael ar y pynciau pwysig sydd wrth wraidd yr ornest yn ymddangos yn drawiadol o ansicr.

Ond wrth geisio sgrifennu yn Gymraeg, y mae'n ansicr ohono ei hun ac o'r herwydd yn ddibynnol ar eraill am feirniadaeth a chywiriad.

Diolch yn fawr.' 'Tan fora Llun, Daniel, 'machgan i, tan fora Llun.' Pan gyrhaeddodd Dan waelod y grisiau, safodd yn ansicr, gan na wyddai ymhle i gael gafael yn y dyn bach.

Hanes ydyw'r testun sydd wedi dioddef mwyaf o dan bwysau anwastad ac anghyfartal y behemoth yma o gyfundrefn addysg sydd gennyn' ni yng Nghymru, a'r canlyniad yn aml ydyw ein bod yn ansicr ac yn anwybodus am ddigwyddiadau ein gorffennol ni ein hunain.

Wedi'r cyfan, onid oedd wedi llwyddo i ddeall un o swyddogion yr orsaf yn egluro wrth barti ansicr ar eu gwyliau ble a phryd yr oedd y tren yn ymadael i Ddofer?

Ym awr y pum cyfrol sydd ar y silffoedd at yr Eisteddfod eleni a chyn belled ag y mae'r fasgedaid hon o stori%au byrion yn y cwestiwn, rydyn ni'n dechrau ar ddiwedd y broses yna ac yn symud ymlaen, dybiwn i, at gyfnod gwahanol eto, cyfnod ansicr iawn ei gyfeiriad a chymysglyd ei natur.

Ond teimlais yn ansicr am ennyd.

Fedrwn ni ddim gwneud cais am ohirio'r treial cyn iddo ddechrau, a'n ffeithiau ni mor ansicr.'

Roedd merch yn eistedd ar fainc ac wrth imi ofyn a oedd ganddi newid o ddeuswllt, dywedodd Brynle, 'He wants to watch trains.' Gyda gwên arbennig i mi, rhoes y ferch bedair ceiniog imi a dweud, 'There you are dear, you go and watch your trains,' fel petai'n ansicr o'm hoed.

Anaml y bydd disgyblion yn darllen a chul yw amrediad eu darllen; ni fyddant yn darllen yn rhwydd a dealltwriaeth rannol neu ansicr sydd ganddynt o'r hyn a ddarllenant.

Teimlwn yn gymysg fy meddwl ac ychydig yn ansicr wrth eistedd ymysg cynulleidfa bitw o ryw hanner cant yn theatr anferthol Elli gyda phawb yn gofyn yr un cwestiwn - "lle mae pawb d'wedwch?" Tybed oedd y gweddill yn gwybod rhywbeth nad oeddem ni'r ffyddlon rai yn ei wybod am y cynhyrchiad?

Dyma'r rheswm, debyg iawn, i amheuon Williams Parry gymryd llwybr igam-ogam ac ansicr.

Mae dyfodol Queens Park Rangers, a'i chwaer-glwb, clwb rygbi Wasps, yn ansicr ar ôl i'r gweinyddwyr gael eu galw i fewn gan y perchnogion, Loftus Road Cyfyngedig.

Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.

Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair 'Golygydd' o'i flaen.

Yn yr act gyntaf, cawsom gipolwg sydyn ar bersonoliaeth a bywyd bregus ac ansicr Anna wrth iddi lowcio'r gin a galw ei chwaer yn bopeth o "bitch" i'r "hen ast".

Er enghraifft Carmen Ejojo, seren Loves Labours Lost yn ansicr, medda hi, ai ar ôl opera Bizet y cafodd ei henwi ynteu ar ôl y rolars gwallt, Carmen.

Yr un pryd, wrth i'r bobl golli eu hiaith, roeddynt yn colli eu gorffennol hefyd: roeddynt yn ansicr pwy yn union oedden nhw; yn ansicr ynghylch y tir o dan eu traed.

amseru sydd yn ddigon ansicr i ddechrau ac yna heb fod yn amseru o gwbl - nid ynghanol yr wythnos ond 'y berw'!

Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.

Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.

'Ac os wyt ti'n ansicr be i'w neud efo merch ar ôl cael gafael ar un, gofyn di i Mop.

Ond er hyn i gyd pur ansicr yw dyfodol Eisteddfod y Foel, gan fod yr hen neuadd yn y Foel, lle cynhaliwyd yr eisteddfod ers dros drigain mlynedd bellach yn dod i ben ei rhawd.