Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.
Gyda chymaint o ansicrwydd ynglyn â chymaint o bynciau eraill yr ydym yn disgwyl arweiniad Arbenigwyr arnyn nhw y dyddiau hyn go brin y gall yr un ohonom ni fforddio cysgun dawel iawn.
Y gwir yw fod llenorion yr ansicrwydd anwadal fel Williams Parry a Pharry-Williams wedi llwyddo i greu llenyddiaeth eneiniedig ac ysgytwol heb ddilyn na Phantycelyn na Gide, a bu Saunders ei hun yn hael ei glod iddynt.
Pan ymadawodd y Rhufeiniaid gadawsant wacter ac ansicrwydd o'u hôl, a chyn pen dim llamodd y Pictiaid rhyfelgar yn baent i gyd dros Fur Hadrian a dechrau difrodi'r wlad.
Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod yna weithredu ar yr argymhelliad hwnnw a'r canlyniad yw'r sefyllfa anfoddhaol bresennol lle y mae dryswch ac ansicrwydd ynglŷn â dwyieithrwydd yn y Cynulliad a phenderfyniadau unigol yn cael eu cymryd gan unigolion y tu allan i fframwaith cyffredinol i'r corff cyfan.
Ond gwelsom eisoes i modernismo fod yn gyfrwng naturiol i ing yr ansicrwydd ynghylch ein bodolaeth mewn byd a drodd yn ddi-Greawdwr, ac yn ddi- ben.
Er gwaetha'r ansicrwydd oherwydd clwy'r taed a genau mae gêm fawr y penwythnos ymlaen - Cymru yn erbyn Ffrainc yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.
Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.
Mae'r ansicrwydd ynghylch cyllido yn peri pryder.
Yn wyneb y fath ansicrwydd ynghylch y dyfodol nid yw'n syndod fod rhai o'r eglwysi hynny sy wedi goroesi yn Rwsia yn dechrau denu addolwyr unwaith yn rhagor, yn ogystal ag ymwelwyr, er na ŵyr trwch y bobl fawr ddim am y ffydd Gristnogol.
Ac meddir ar glawr Cribau Eryri Rhiannon Davies Jones - sydd hithau'n ymdrin a'r drydedd ganrif ar ddeg : Mynegir ofn ac ansicrwydd gwreng a bonedd yn wyneb creulondeb yr amseroedd a mynych droeon Ffawd....Efallai y gwelir yma arwyddocad cyfoes yng nghymedroldeb meibion y Distain, yng ngweledigaeth y Mab Ystrwyth ac yn bennaf yn nelfrydiaeth yr Ymennydd Mawr.
Mae'r ansicrwydd ynglyn â dyfodol Clwb Pêl-droed Abertawe mor ddyrys ag erioed, ar y cae chwarae ac yn y stafell bwyllgor.
Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.
Roedd cysgod ansicrwydd yn bygwth hawlio'i wedd.
Yn anffodus, fodd bynnag, er bod dulliau rhagolygu tymor byr wedi gwella gryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y mae elfen o ansicrwydd yn perthyn i unrhyw ragolwg economaidd.
Mae ansicrwydd o hyd ynglyn ag ariannu'r nawfed clwb hwnnw.
Ni allai oddef gogor-droi mewn ansicrwydd.
Oes ynddo ynysoedd o unigrwydd ac ansicrwydd?
Gyda hyn cewch glywed llif ei huodledd yn arafu ac ansicrwydd yn dod i'w lais.
Parhau mae'r ansicrwydd a fydd Caerdydd yn herio trefnwyr Cwpan Heineken Ewrop a dewis y prop Peter Rogers ar gyfer eu gêm yn erbyn Toulouse yfory.
Roedd ansicrwydd Woosnam yn amlwg, y tywod ar lawntiaun ddirgelwch llwyr iddo.
Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol.
Er gwrthwynebiadau gwleidyddol (ac yn aml, ansicrwydd gwyddonol), yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf, trawsnewidiwyd ein hamgyffred o'n dibyniaeth ar yr amgylchedd - tyfodd ymwybyddiaeth newydd ac, yn araf, blaenoriaethau newydd.
Yn ddistaw bach, roedd Dafydd Elis Thomas wedi gobeithio y byddai Syr Wyn Roberts yn aros yn y Swyddfa Gymreig gyhyd â phosib - bellach, gyda Rod Richards yn swydd allweddol yr iaith, mae yna ansicrwydd newydd.
Mae'n nhw'n dymuno byw'n ddi-enw, yn disgyn i sbeiral anobaith ac, oherwydd ofn unigrwydd ac ansicrwydd yn colli eu hunaniaeth."
Efallai y teimlwch mod i'n fwriadol danseilio gwyddoniaeth wrth bwysleisio ansicrwydd y cyfryngau a'r mesuriadau a ddefnyddia'r gwyddonydd.