(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.
(i) Cynlluniau a datganiadau polisi statudol ac anstatudol fel, e.e., sylwadau ar y Cynllun Fframwaith neu unrhyw adolygiad ohono, creu cynlluniau lleol a datblygu unrhyw bolisi cynllunio arall sydd yn effeithio ar bolisi%au cyffredinol y Cyngor.
DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.
Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.