Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anterliwtiau

anterliwtiau

Cyfrol yw hon sy'n cyflwyno anterliwtiau - sef y dramâu hynny yr arferid eu perfformio ar sgwâr y dref, er enghraifft, yn y ddeunawfed ganrif.

Cefais fwynhad yn darllen yr anterliwtiau hyn.

Gan mai Cymraeg y ddeunawfed ganrif yw Cymraeg yr anterliwtiau cynhwyswyd geirfa yn y cefn sydd yn hwyluso'r darllen gymaint.

Ynghyd â'r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr barddoniaeth.

Yn naturiol, ceir yn y rhan o'r rhagymadrodd sy'n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o'r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i'r nifer o benillion a ddosbarthai'r anterliwtiwr i'w hactorion.

Mae'n amlwg, o ddarllen yr anterliwtiau fod gan Huw Jones o Langwm ddawn i adrodd stori, rhywbeth sy'n prinhau y dwthwn hwn yn anffodus.

Cynigir rhagymadrodd sydd fwy neu lai yn astudiaeth drylwyr ond dealladwy dros ben serch hynny, o dri o Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.

Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.