Er i'r anterliwtiwr dawnus hwn gyhoeddi cyfrol y gellir ei hystyried yn arloesol, o waith beirdd eraill, a chyfrol o'i waith ei hun, yr oedd yn llawer enwocach am ei faledi.
Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.
Ynghyd â'r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr barddoniaeth.
Yn naturiol, ceir yn y rhan o'r rhagymadrodd sy'n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o'r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i'r nifer o benillion a ddosbarthai'r anterliwtiwr i'w hactorion.