Er mai yn y blynyddoedd 1909 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.
'Roedd cyfrwng y ffilm hefyd yn mynd o nerth i nerth; hwn oedd y cyfnod pan oedd Hollywood yn ei anterth.
Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.
Serch hynny, yn anesmwyth y gorweddodd mantell serennog yr actores ffilmiau ar ei hysgwyddau erioed ac roedd hi'n sôn am droi at yrfa fel gweithwraig gymdeithasol neu rywbeth tebyg hyd yn oed ar anterth ei phoblogrwydd masnachol.
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y chwyldro diwylliannol yr ydym yn arfer cyfeirio ato fel y "Dadeni Dysg" i'w anterth.
Treth ar y corff oedd ymgripian dros y grib olaf, weithiau ar fy mhenliniau, a'r haul yn ei anterth yn llosgi fy wyneb bob cam o'r esgyniad trafferthus.
Y brwydro yn dod i'w anterth gwaedlyd yn Passchendaele.
Dyma gyfnod 'Cwlt y Cnawd'. 'Roedd y Mudiad Rhamantaidd yn awr yn ei anterth, a merched lledrithiol oedd merched y beirdd.
Erbyn canol y bore yr oedd yr haul yn ei anterth, ac aeth awyrgylch yr iard yn drymaidd a chysglyd eithriadol, a'r tawelwch hefyd yn gwneud pethau'n waeth.
O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.
Cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd rhyw fath o anterth ym 1910.
Mae ail fileniwm y cyfnod ers Crist yn tynnu at ei deryfn a'r hil ddynol, mae'n ymddangos, yn anterth ei wallgofrwydd.
Bydd prysurdeb teneuo'r blodau unflwydd yn ei anterth.
Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.
'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym.
A'r cyfarfod yn anterth ei wres, daeth cerbyd i'r fan, a neidiodd gŵr ohono a adwaenai pawb, a phed enwem ef, enwem ŵr y gŵyr Cymru gyfan amdano fel un o golofnau cadarnaf y mudiad hwn.
Byddai'r miri a'r rhialtwch ar ei anterth.
Ymhen munudau roedd ef ar ei anterth.
Yr oedd y nifer fechan a adawyd yn weddill yn ddigon serch hynny, oherwydd yn fuan iawn ar ôl anterth y clwy yr oedd cwningod ar gynnydd eilwaith.
Er mai yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg y cyrhaeddodd y proses hwn ei anterth, yr oedd eisoes i'w ganfod ar waith yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mwy na thebyg i Bowser gael ei ddylanwadu gan ffrindiau iddo o ardal Llanelli a Chydweli lle'r oedd y diwydiant glo yn ei anterth ymhell cyn i Bowser ddod i lawr.
Roedd y miri ar ei anterth pan daflwyd y drws yn agored yn sydyn a daeth hen grwydryn garw ei olwg, yn gwisgo rhyw garpiau blêr, i mewn i'r dafarn.
Dyna'r lle y gwelir ar ei anterth gyfuniad o'r elfennau gwahanol yng ngwaith Davies fel esgob, sef, y gwladweinydd, y bugail, a'r ysgolhaig.