Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anticlin

anticlin

Ceir anticlin mawr yng nghanol bae Langland a'r gwendid yma yn y creigiau a fu'n gyfrifol, wrth gwrs, am i'r môr greu bae mor fawreddog yma.

Hawdd yw datrys y dirgelwch yma pan edrychwn ar drawsdoriad o'r Fro sy'n dangos i ni fod y creigiau wedi cael eu plygu fel bod Cefn Bryn ar ben anticlin a Phorth Einon mewn synclin.

Darn deheuol o anticlin yn y Garreg Galch yw Pen Pyrod (neu Worms Head) ac mae echelin yr anticlin i'w weld pan mae'r llanw allan ar y darn tir rhwng Pen Pyrod a'r tir mawr.