Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anturiaeth

anturiaeth

Effaith y temtiad oedd peri i Iesu ymgymryd yn hollol agored yng ngŵydd ei ddilynwyr ag anturiaeth y chwyldrowr di-drais.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Gwell gan Cullmann beidio â sôn am Iesu fel 'Selot' ond dywed fod ei holl weinidogaeth mewn cysylltiad parhaus â Selotiaeth, mai hon oedd cefndir ei anturiaeth ac mai fel Selot y cafodd ei ddienyddio.

Y mae geiriau cyntaf Geraint yn arwydd eglur fod perthynas newydd wedi'i sefydlu rhyngddynt ac mai ynghyd yr wynebant bob anturiaeth newydd, 'Arglwyddes', ebe ef, 'a wyddost ti pa le y mae ein meirch ni?' Yr antur olaf yw'r cae niwl a'r chwaraeon lledrithiog.