Tanlinellwyd y pwynt, ond mewn modd cymeradwyol, gan Ifor Williams yn ei 'Ragair': Os eich amcan yn prynu'r gyfrol hon oedd cael stori anturiaethus, 'o gyfnod y rhyfel degwm', a chwithau i ddal eich hanadl wrth ruthro drwy ei digwyddiadau cyffrous, ha wŷr, ewch yn ol i ffeirio Gŵr Pen y Bryn am gyfieithiad o chwedl Saesneg.