Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anuniongyrchol

anuniongyrchol

Tua diwedd honno dywed: 'Os gyfynnir ple dysgodd (Dafydd) ganu a charu mor gyffredinol, rhaid cydnabod ei ddyled anuniongyrchol i Drwbadwriaid Ffrainc, fel y dangoswyd eisoes gan Prof Cowley, Stern, Prof W Lewis Jones a Mr W J Gruffydd.

yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.' Rhaid cymharu'r dull awdurdodol, diymhongar hwn, sydd yn nodweddiadol o Hiraethog wrth iddo drin digwyddiadau sydd heb berthynas â'r rhai canolog, â'r dull anuniongyrchol a ddefnyddia i drin mater y briodas:

Yn ei haraith Jiwbili, y Frenhines, yn anuniongyrchol, yn beirniadu cenedlaetholdeb yng Nghymru a'r Alban.

Trosedd gan Mark Aizlewood yn y cwrt cosbi yn arwain at gic rydd anuniongyrchol ac ergyd gan Lilian Popescu yn rhoi dim cyfle i Gary Wager.

Ffordd arall angenrheidiol ond anuniongyrchol o gynyddu cyfleoedd yw drwy ddatblygu cymorth cynhaliol.

'Ni cherddaf....Ni chwarddaf' yn dyfnhau negyddiaeth y nos i'r bardd yn ddwys iawn, a hynny'n cael ei datrys braidd yn gynganeddus mewn bodlonrwydd anuniongyrchol 'draen...heb wrid y rhos,' 'gweaf....gwyw'.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

GWARCHOD NATUR, DAEAREG A'R TIRWEDD: Gall cloddio mwynau gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar warchodaeth natur ac ar adnoddau tirweddol Gwynedd, o ran colled neu ddirywiad cynefinoedd lled-naturiol a newid tirweddau, tirffurfiau a defnyddiau tir traddodiadol.

Ei ddadl yw fod y "dilyniant" cyfeiriadau'n ffurfio "is-destun" (ei air am "sub- text") i gyfleu mewn ffordd anuniongyrchol neges nad yw'n amlwg ym mhrif destun y Llyfr.

Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.

Credai L Chr Stern fod beirdd Cymru yn y ddeuddegfed ganrfi a'r drydedd ar ddeg yn gwybod am y farddoniaeth a oedd yn ei bri yn Ffrainc, a'u bod wedi dod dan ei dylanwad; a pharthed Dafydd ap Gwilym, efallai nad oedd yn uniongyrchol ddyledus iddynt, ond am ei ddyled anuniongyrchol nid oedd dim amheuaeth.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Er mwyn cyfrif yr argost, y mae'n angenrheidiol gwneud amcangyfrif o'r treuliau anuniongyrchol ymlaen llaw, a phenderfynu hefyd ar gynllun neu sail i'w dosrannu.

Wrth archwilio fel hyn natur euogrwydd unigolion, mae'r awdur hefyd yn dweud llawer, yn anuniongyrchol, am berthynas yr Almaen â darn tywyll o'i hanes y bu'n well ganddi'n aml ei gadw dan glo.

Canodd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i wirioneddau, ac efallai fod mesur ymateb ambell ddarllenydd i'w farddoniaeth yn dibynnu ar ei allu i ymateb i wirionedd fel y cyfryw.

Ni pharhaodd y mudiad clasureiddio hwn am fwy nag un genhedlaeth, serch hynny, ac ni welir fawr o ddylanwad clasurol ar farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg, onid yn anuniongyrchol efallai trwy ddylanwad Goronwy Owen a'i gyfoeswyr.

I fod yn hollol gywir, cyfyngir y defnydd o'r term hwn i gostau anuniongyrchol o gynhyrchu ond siaredir yn aml, hefyd, am argostau gweinyddol ac argostau marchnata.

O'r braidd y gellid taro ar fodd mwy anuniongyrchol o gyflwyno'r brif weithred.

Mae perthynas anuniongyrchol cyn hynny trwy'r system wybodaeth ffurfiol ac anffurfiol.

Tuedda'r rhain i fod yn gysylltiedig ag arferion gwaith a chanlyniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol llunio polisiau.

Wrth ddadansoddi'r dylanwadau yma yn fanylach feu dosbarthir yn ôl dylanwadau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar amaethyddiaeth.