Yna gostyngodd blew ei hamrannau nes eu bod nhw bron ag anwesu ei gruddiau a'u codi yn ara deg eto, fel cyrtan mewn theatr.
Yn gynnil, gynnil yr awgrymir atyniad y ddau gariad at ei gilydd, fel pan ddywed Sarah Jones; 'Roedd eich aeliau chi fel taran ond ar unwaith dyma chi'n anwesu wyneb y gaseg.
Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.
Ni chawn fawr o son amdano'n anwesu Sarah, dim ond cyfeirio'n ddidaro ati'n 'ymnythu yng nghorff ei phriod yn y gwely mawr'.
Gallai ddychmygu ystum aesthetig Vera Puw-Jones, y tiwtor, wrth anwesu'r brigyn yn hwyrach heno, a'i chlywed yn ei chanmol am ddewis y bwa perffeithiaf ei ffurf ar holl lethrau'r Frenni.
Wrth ymestyn ac anwesu'r gwlân a'i fwydo i mewn i'r dro%ell, symudai ei dwylo mor ystwyth a meistrolgar â dwylo perfformiwr yn canu'r piano.
Nid heb achos y dywedir fod Thomas Jones Dinbych yn 'anwesu Dafydd ap Gwilym a Lancelot Andrews!' Y mae'r ffraethineb hefyd yn lleddfu rhywfaint ar rym y serch: nid y rhyferthwy o serch meddwol y canodd y beirdd rhamantaidd iddo sydd yma o gwbl.
"Whiw!" Tynnodd y car i ochr y ffordd ac edrych ar y llaw fu'n anwesu ei bronnau fel petai honno'n ffynhonell pob drygioni.