Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anwybod

anwybod

Fel yr oedd darllenwyr yr Almanaciau gynt yng Nghymru yn ymhe/ l ag arwyddion y sidydd neu'r sodiac, dengys y colofnau poblogaidd mewn papurau Cymraeg a Saesneg y diddordeb mawr sydd heddiw (yn arbennig ymhlith merched) mewn astroleg - credu neu led-gredu yn arwyddion y planedau a darllen horosgôb - yr un hen awydd am gael gwybod yr anwybod.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Pa ryfedd fod y gerdd yn gorffen trwy ail-lunio'r cwpled elegiaidd a ddefnyddiodd cynt: Ba enaid ŵyr ben y daith?- Boed anwybod yn obaith!

Dyhead dyn am gael treiddio i'r dyfodol: gwybod yr anwybod; dirnad yr annirnadadwy; rhoi ystyr i'r diystyr; gweld yr anweledig.

Maent yn fynegiant o ofn cynhenid dyn; ei ddychymyg rhyfeddol; ei awydd angerddol am wybod yr anwybod; a'i ddyhead oesol am lawenydd a bodlonrwydd.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.