Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anwybodaeth

anwybodaeth

Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

Twpdra rhywun estron diddeall oedd sail anwybodaeth Ms Toynby.

Gan nad yw'n arfer yn Lloegr i roi unrhyw sylw yn yr ysgolion i'r diwylliant Cymreig, y mae trigolion y wlad honno at ei gilydd mewn anwybodaeth lwyr am gynnwys y diwylliant sy'n cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid wyf yn ddigon ffôl i gredu mai drygioni ac anwybodaeth sydd wrth wraidd syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fy hun fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Yr oeddwn yn llanc pendew a thwp pan gwrddais â John Gyntaf, ac , i'm tyb i, anwybodaeth anifeilaidd oedd ei nodwedd amlycaf.

Roedd y gyfres ddiweddaraf o raglenni dogfen yn cynnwys Iolo Williams, swyddog rhywogaethau'r RSPB yng Nghymru, a siaradodd yn ddwys am greulondeb wrth drin adar oherwydd anwybodaeth neu fasnacheiddiaeth.

Honnwyd eu bod yn gyfrifol am anwybodaeth y boblogaeth - '...' .

Er cased y gwir, rhaid oedd dweud 'fod llawer blodeuyn tlws o farddoniaeth geir yn y pryddestau hyn yn tyfu nid yn nhiroedd breision gwirionedd, ond yn nghorsleoedd anwybodaeth a hunanfoliant cenedlaethol'.

Ni welir Bob a Margaret gyda'i gilydd; ni roir unrhyw fanylion ynglŷn â datblygiad eu perthynas; a chyn y diwedd pan â Margaret i ffwrdd sylwn fod yr adroddwr yn rhannu anwybodaeth y plwyfolion ynghylch ei lleoliad.

Cyffesaf yn wir fy anwybodaeth dybryd o'm gwlad fy hun.

Ond yn rhyfedd iawn nid yw'r anwybodaeth hon yn rhwystro Saeson i basio barn ar werth y diwylliant Cymraeg.

Ond fy anwybodaeth i oedd yr esboniad ar y diffyg.

Oherwydd bod disgyblaeth a hyfforddiant mewn llu mawr o eglwysi wedi pallu, y mae anwybodaeth yr aelodau am gynnwys y Beibl a hanfodion y Ffydd yn achos pryder mawr.