Anwybyddwyd realiti oherwydd nad oedd yn cyd-fynd a'r hyn a oedd yn ysgrifenedig ar bapur - sef yng ngweithiau cysegredig Marx a Lenin.
Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.