'Fe anwyd y dyn yna ar y Sulgwyn, meddan nhw i mi.
Yn llygaid y gyfraith, Twrciaid yw plant a anwyd yn yr Almaen i rieni Twrcaidd, hyd yn oed.
Yn nes ymlaen byddai'r holl gwmni yn gorymdeithio tua'r eglwys pob un a'i gannwyll ynghynn i ganu moliant i faban bach a anwyd mewn preseb.
Yr oedd Angharad yn un o'r pedwar plentyn ar hugain a anwyd i wraig Risiart ab Einion o Fuellt, deuddeg mab a deuddeg merch a phob un ohonynt gydag un llygad du ac un llygad glas.
Byddai Anti yn dweud mai yr achos am hyn oedd fod y dŵr yn brin ar y llong pan anwyd hi ar ganol y mor.
Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!
I genhedlaethau o blant Y Felinheli a anwyd yn y blynyddoedd cynnar wedi'r rhyfel byd cyntaf, Miss Williams Bethel oedd athrawes y plant yn Ysgol Hen, ac felly y parhaodd i gael ei hadnabod ar hyd ei hoes ganddynt.
Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.
Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.
Yr oedd Mrs Thomas yn feichiog ar y pryd a phan anwyd merch iddi, galwyd hi yn Mercy Malvina Thomas.
Digwyddodd heb i'r rhan fwyaf ohonom sylweddoli hynny - ond yr wythnos diwethaf yr oedd hi'n ganrif a hanner er pan anwyd Robert Louis Stevenson.
Dyn o'r enw Ekumdayo Badmus a anwyd yn Nigeria ydi pencampwr cenedlaethol newydd chwarae Monopli yn Iwerddon.
POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.