Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.
Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.
Cododd ei draed i ben y pentan, taniodd sigâr fach, ac aeth ati i anwylo'r llun.
Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.
Fe fyddai bron â dotio ar y cwysi a drôi'r aradr, a theimlech ei fod yn rhan o'r cae, fod iddo wreiddiau yn anwylo'r âr yr oedd yn gwyro trosto.