Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anymwybodol

anymwybodol

Os wyt yn eu colli hwy i gyd, golyga hynny fod y ceffyl wedi'th gicio ac rwyt yn gorwedd yn anymwybodol a'th antur drosodd.

Trefn yw'r peth pwysicaf a feistrola baban, yn anymwybodol mae'n wir a thros gyfnod o amser.

Yr oedd yn ddigon call i beidio â'm llusgo pan oeddwn yn anymwybodol." 'A dyma chi'n cyrraedd, o'r diwedd, at waelod grisiau'r feranda?" "Do, ac yr oeddwn yn falch iawn o deimlo'r pren dan fy nwylo," meddai'r tad.

Gan mai Jungiad oedd yr awdur, teg disgwyl mai'r hyn a wêl yn bennaf mewn llenyddiaeth, yn enwedig chwedlau, ydyw delweddau sy'n cyfleu byd a bywyd mewnol, anymwybodol y seici neu'r enaid.

Fel yn yr ardaloedd diwydiannol, roedd y perchnogion tiriog yn yr ardaloedd gwledig fel petaent yn anymwybodol o ddiffygion arswydus eu deiliaid.

Cyn i'r milwr arall gael cyfle i gael ei draed dano mae yntau hefyd yn cael ei daro'n anymwybodol.

Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Rhoddodd yr argraff - yn annheg efallai - fod un o weinidogion tramor gwledydd Prydain mor anymwybodol o sefyllfa'r bobl hyn ag yr oedd Marie Antoinette pan awgrymodd y dylai trigolion di-fara Paris fwyta cacennau.

Mae'r cwricwlwm dan bump yn cyfeirio at yr holl brofiadau a ddarperir gan ysgol, yn ymwybodol ac yn anymwybodol, ac sy'n hybu datblygiad y plentyn cyfan.

Gwyddwn y buasai'r teithiwr nesa' yntau'n methu dod oddiarni, neu y buaswn i'n cael fy nharo'n anymwybodol ganddo ef neu'r gadair.

'Chwiliwch am y bwa.' Caeodd ei lygaid ac aeth yn anymwybodol eto.

Bu Edward farw cyn pen pythefnos ar ôl gorwedd yn anymwybodol am rai dyddiau.

ch) Symud/Codi Os yw'r person yn anymwybodol neu wedi'i niwedio'n ddifrifol, peidiwch â cheisio ei symud na'i godi; gadewch hyn i'r person/personau sy'n gwybod am Gymorth Cyntaf.

`Rydw i wedi cael gafael ar y babi hwn yn gorwedd yn anymwybodol,' meddai.

Hwyrach fod y cymhelliad hwn yn fwy anymwybodol na dim arall; ond y mae'n ffitio yn dda mewn cyfnod pan oedd nifer o feirdd ac ysgolheigion yn ceisio ailsefydlu safonau newn llenyddiaeth Gymraeg, a phrofi o'r newydd ei bod yn haeddu lle pwysig ymysg llenyddiaethau'r byd.

Mae'r milwr arall yn troi i weld beth sy'n digwydd, ac mae hynny'n ddigon o gyfle i Eiryl, Elgudd a Cedig neidio arno a'i darno'n anymwybodol.

Cloddio i lawr ac i lawr nes iddyn nhw ddod at gorff anymwybodol Ivan.

Yn nes ymlaen, oni chodir y gwres, â'r claf yn anymwybodol a bydd y cyhyrau yn mynd yn anystwyth.