Protestwyr gwrth-apartheid yn protestio yn erbyn taith gan dôm rygbi De Affrica yn Abertawe a Twickenham.
Mae blodeugerdd ddiweddar o gerddi Saesneg a Chymraeg, Poets against Apartheid/Beirdd yn erbyn Apartheid - blodeugerdd sy'n cynnwys peth canu cyffredin iawn, iawn - yn profi fod calonnau pobl yn y lle iawn, a'r lle hwnnw nid yn unig o fewn Cymru erbyn hyn.
Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?