Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.
Un tro pan oedd y darlithydd ar ei uchelfannau yn trafod canu Llywarch Hen - fe ddaeth cawod drom o law i dorri ar ei arabedd.