Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arbenigwr

arbenigwr

Cafodd Cyfres Cae Berllan, sef cyfres o storïau byrion, eu sgwennu mewn ymgynghoriad ag arbenigwr iaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen.

Bydd yn gweld arbenigwr eto heno ac ofnir y bydd angen llawdriniaeth ar ei droed.

Y mae cymaint o amser er pan eisteddais i drwy bregeth yr ydw i ymhell o fod yn arbenigwr ar yr hyn sy'n digwydd mewn capeli ac eglwysi.

Ond wedi iddo weld arbenigwr ddoe mae'r newyddion yn llawer gwell na'r disgwyl.

Go brin ei fod yn arbenigwr yn y maes nac yn gwybod llawer mwy na chi a fi.

Yr oedd un neu ddau o gynghorwyr lleol pur brofiadol yn bresennol, a gofynnodd un ohonynt am ganiatâd i gyflwyno'r cynllun i'w gyngor ef, yn gynllun a awgrymwyd iddo gan arbenigwr, ond heb enwi'r Blaid; yr oedd e'n ffyddiog y byddai ei gyngor yn ei dderbyn ac y byddai'r aelodau'n barod i'w gymeradwyo i gynghorau eraill.

Rydw i'n cofio fel petai o'n ddoe dyn bach o'r enw Dafydd Bach Goch, arbenigwr yn ei grefft, yn sefyll o flaen cwt fy nhad a gofyn iddo, 'Sut mae Willie bach yn dod ymlaen?'

Ac weithiau, yn fwy diddorol efallai i'r 'darllenydd cyffredin' nad yw'n arbenigwr ar y clasuron ei hunan, cawn gyfle i weld yn glir beth oedd agwedd y beirdd hyn at y clasuron a'r hen fyd.

Margaret yn fy llusgo i weld arbenigwr yn yr Amwythig.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gŵr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo.

Byth a hefyd mae rhyw Arbenigwr ar y teledu ar radio ac yn y papurau yn dweud wrthym fod rhyw bopeth neui gilydd yn iawn.

Y fo ydi'r arbenigwr ar fygio yn y criw.

Yr un wythnos ag yr oedd rhyw arbenigwr neu'i gilydd yn cyhoeddi fod cwrw yn dda inni gallech fentro y byddai'n rhaid i rywun gael difetha popeth trwy ddweud y dylem yfed mwy o ddwr.

Ond yn lle eu hateb yn onest, yr hyn a wnaeth yr arbenigwr ar y Testament Newydd oedd glaswenu a chracio jôc fach lywaeth a ddangosai mewn ffordd Gristionogol glws y fath glown oeddwn i fod wedi paldaruo codi'r fath gwestiynau.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gwr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Mae David Beckham yn ymweld ag arbenigwr heddiw, i benderfynu a oes angen llawdriniaeth ar ei benglin.

Dychwelais innau i'r Amwythig i weld yr arbenigwr ynglŷn â'r cefn am y tro olaf, gobeithio.

Mr Wynne Samuel, os cofiaf yn iawn, a ddaeth ag awgrym gerbron y Pwyllgor, yn cymell y Blaid i fabwysiadu yn bolisi gynllun ar gyfer Cymru o waith arbenigwr yr oedd ef yn ei adnabod; yr oedd y cynllun yn un priodol iawn i Gymru, ac ni chafodd y Pwyllgor anhawster i'w dderbyn.

Bydd ymosodwr Wrecsam, Lee Trundle, yn gweld arbenigwr heddiw i wybod a oes angen triniaeth ar ei goes.

Ac fel arbenigwr ar gelloedd, mi alla i dy sicrhau di nad ydi o'n brofiad y gelli di ein twyllo ni yn ei gylch.

Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.

'Cystal i ti ddeall dy fod yn edrych ar bedwar arbenigwr yn y fan yma,' meddai.

Yn dâl am hynny, cawsant ddau lun yn anrheg, un o eglwys Sant Ioan yn eiddo iddi hi bellach - yn crogi ar y wal uwchben y piano, ac yn werth cannoedd yn ôl cydnabod i Paul a oedd yn dipyn o arbenigwr.

Yn achos y bîff trodd remote risk yr Arbenigwr yn beef is perfectly safe yng ngenaur gwleidyddion.