Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arch

arch

Ar ôl mynych newid ysgwyddau tan yr arch hyd onid oeddynt yn friw gan y pellter, cyrhaeddwyd Capel Seion.

Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.

Gadawyd yr arch yn y cyntedd tan ei blodau.

Yn naturiol ddigon byddai rhyddhau'r hormon yma ar y farchnad agored, er i'w wneuthurwyr honi ei fod yn hormon naturiol sydd yn y fuwch eisoes, yn hoelen arall yn arch gwerthiant llaeth wedi ei gynhyrchu o ganlyniad i hormon.

Hwn oedd uchafbwynt y dinistr a'r hoelen farwol yn arch yr hen gymdeithas gynefin gymdogol.

Ni ddywedaf i ond hyn am y polisi yn awr: hoelen arall yw hi yn arch yr iaith Gymraeg.

Yn union fel y bu i'r Archoffeiriad Iddewig, ar W^yl y Cymod, daenu gwaed ar glawr neu 'drugareddfa' Arch y Cyfamod a gedwid yng nghysegr sancteiddiolaf y deml, aeth Iesu yntau y tu hwnt i'r llen wedi taenu ei waed ei hun yn aberth dros ei bobl (Heb.

Gwelwyd fod arch Edward Parry wedi malurio, ond fod arch Ann Parry yn aros heb ond ychydig o amhariad arni.

Agorwyd arch Ann Parry eto, ac er mawr syndod i'r ardalwyr, arhosai eto heb lygru ac mor brydferth ag erioed.

Mae'n gweld plentyn yn cael ei genhedlu mewn angladd yn y gerdd 'Angladd', hynny yw, yr oedd Cymru newydd yn codi o arch yr hen Gymru.

Y gweithwyr a'u cododd, a hynny heb gymorth cyfalaf gan yr arch- gyfalafwyr, y bragwyr.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Cododd hyn awydd ar y trigolion i agor yr arch, ac fe gawsant bod corff Ann Parry yn berffaith ddilwgr.

Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.

Gwneud un siwrnai ddechrau'r mis a wnawn i'r arch-farchnad a cheisio cael digon o fwyd i bara am y mis, oni bai am fwydydd ffres fel bara a llefrith a chig.

Nid oedd y blodau na'r llysiau yn yr arch, hyd yn oed, wedi gwywo.

Neu dyma arch Noa a'r holl anifeiliaid ynddi, a phob un yn cadw'i sŵn naturiol ei hun...

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

'Roeddwn eisiau gweld y pridd yn disgyn o'r rhaw ar ben yr arch er mwyn anghofio'r holl hanes erchyll am byth." "Ond wnaeth hynny ddim digwydd?" gofynnodd y cyfaill agosaf ataf gan ail lenwi'r gwydryn.

Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.

Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.

o arch a gorchymun y vaester, nyt amgen, Hopkyn uab Thomas uab Einawn'.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

'Dwi'n cofio Glyn yn deud wrth nhad, "Ew ma' hon yn hen dad." "Yndi," medda nhad, "Hon oedd gan Noa yn yr Arch