Pan ddaw dyn i gydnabod ei archollion ei hun ac i adnabod Crist fel Meddyg, fe'i gwneir yn un â Christ.
Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.