A chan fod archwiliad meddygol rheolaidd ar y merched hyn, yr oedd y drefn swyddogol yn gwarchod rhag i glefyd gwenerol ledaenu ymysg y milwyr.
Mi gafodd camera hyd i farciau tra'r oedd un o'r adweithyddion yn cael archwiliad blynyddol.
O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.
Daethon nhw i Ethiopia i wneud archwiliad o anghenion ardal y dwyrain, ond cawson nhw eu trin fel baw gan y biwrocratiaid trahaus ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig, yr adeilad mwyaf yn Ethiopia gyfan.
I'w gwarchod rhag y perygl hwnnw gofalwyd bod ganddynt eu puteindai eu hunain, a byddai'r puteiniaid proffesiynol a gedwid yn y rheini'n cael archwiliad meddygol yn gyson.
(b) Derbyn y drefn a nodir yn yr adroddiad i ymdrin â cheisiadau gan lanlordiaid am archwiliad o eiddo i ddibenion eu ceisiadau am grant adnewyddu.
Gellwch feddwl ein bod ni braidd yn gyndyn i fynd am yr archwiliad yma ar ôl gwrando ar hanesion yr hen ddynion yn y chwarel.
Bydd Cymdeithas Pêl-droed Yr Iseldiroedd yn cynnal archwiliad annibynnol i'r achos.
Dylech ysgrifennu am yr archwiliad gan ddefnyddio'r penawdau canlynol:
Wedi inni fod yn gweithio yn y chwarel am ryw bythefnos, cawsom orchymyn i ymweld â meddyg am archwiliad, ond nid ein meddyg ein hunain.
Gall y cynllun datblygu ysgol ac/neu adroddiadau archwiliad arenwi meysydd datblygu i gael sylw drwy leoliad mewn busnes.
Os nad oes torr cytundeb neu broblem arall tebyg ni fydd angen archwiliad.
Mae ei allu i wneud hynny yn cael ei fonitro ar hyn o bryd trwy archwiliad.
Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog perthnasol, i gymryd camau i derfynu gwasanaeth os bydd archwiliad meddygol yn tystio nad yw swyddog yn atebol ar gyfer y swydd ar ôl sicrhau na all ymgymryd â swydd ysgafnach os bydd un ar gael.
Dywedodd ei fod yn gwneud archwiliad o'r tir ac eisiau cadarnhau sawl erw oedd i bob fferm.
Doedd - - ddim yn gweld yr angen am archwiliad ariannol o fewn ysbryd a bwriad Cytundeb Pris Sefydlog.
Bydd chwaraewr canol-cae Cymru Robbie Savage yn cael archwiliad arall ar ei ben-glîn heddiw i weld a fydd e'n ddigon iach i chwarae yn y gêm yn erbyn Iwcrain wythnos i ddydd Mercher.