Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ardd

ardd

Ganddo ef nid coeden gyraints duon fyddai'r goeden ond coeden dyfu perlau, a masnachwyr perlau Llundain wedi gwisgo colyn llidiard yr ardd i lawr i ddim, gan amled eu mynd a dod i gyrchu'r perlau dihysbydd hyn.

Fel yr oedd hi'n digwydd, nid oedd ganddo gynlluniau ar gyfer y noson heblaw twtio dipyn ar yr ardd, ond fe allai ef fod wedi trefnu if ynd allan efo'i wraig neu i gyfarfod cyfeillion - wedi'r cwbl, fe fyddai llawer o bobl yn mynd allan ar nosweithiau Sadwrn.

Y tro nesaf y byddwch yn yr ardd, gosodwch ddarn o hen gardbord ar y glaswellt, a'i adael yno am rai dyddiau.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Un amser ceisiais ei hefelychu, a bum yn hel planhigion cactus ar yr paith a'u plannu mewn gwahanol fannau yn yr ardd.

Dyma'r ardd fotaneg fawr gynta i'w chreu ym Mhrydain ers dros ddwy ganrif.

Dyma wyrdroi traddodiad yr ardd-winllan.

Nid gormod o beth fyddai iddynt rwbio ei drwyn yn y pridd a rhoi chwip din iddo bob tro y daliant ef yn yr ardd.

Dyma chwi gemegydd, fe ddywedwn ni, yn astudio rhyw wedd ar gemeg y dderwen ym mhen draw'r ardd.

Cadwai yr ardd yn hynod o dlws, blodau o bob lliw ymhobman, y rhosys yn gorchuddio'r wal oedd yn dal y tir yn ei le, a choed acacia a blodau gwyn a phinc.

A'r bore wedyn ar ôl codi, dilynodd hi o gwmpas yr ardd ac yna i fyny'r berllan.

Yn yr ardd roedd ffynnon o ddŵr lemwn, a blodau o losin a siocled a'r holl ddanteithion yr oedd Idris mor hoff ohonynt.

Treulio'r bore i gloddio geudy newydd yn yr ardd, a phawb yn fodlon ar berffeithrwydd y gwaith.

Er bod yna wrthwynebiad i'r ardd ymhlith y trigolion lleol sydd wedi gweld cynydd yn y lefelau o draffig, dywedir bod y cynllun wedi dod â £10m i'r economi.

Ond doedd dim golwg o neb yn cerdded i lawr llwybr yr ardd.

Ac mi gawsom ni hyd i'r gath wedi'i chrogi ar gangen y goeden afalau yn yr ardd.

'Rydym yn lwcus ein bod yn gweld y ji-binc a'r llinos werdd yn yr ardd neu'r gwrychoedd yn aml iawn.

Gadael llonydd i nhad yn y r ardd.

Agorodd Cadi glwyd yr ardd, ac yna safodd: yn eistedd ar riniog y drws yr oedd - Smwt.

Wir, roedd sawl un yn arfer taro draw wedi nos, gan esgus mynd i weld 'i mam, ac yn ddigon parod i Luned 'i hebrwng e at glwyd yr ardd cyn mynd adre.

Y gobaith yw bydd agwedd arloesol yr ardd at wyddor planhigion a garddwriaeth yn rhoi Cymru yn rheng flaen gerddi botaneg y byd.

Mae'r Antur, hefyd, wedi sefydlu canolfan arddio sy'n cynnig amrywiaeth o blanhigion, llwyni coed, alpau a grug ac amrywiaeth o ddodrefn, thybiau pren a choncrit ac addurniadau ar gyfer yr ardd a'r patio.

Cais llawn - newidiadau a gwelliannau yn cynnwys portico, ystafell wydr i'r cefn, wal i'r ardd a newidiadau i ffenestri - dim gwrthwynebiad.

Mae pridd yr ardd fel rheol yn ddigon ffrwythlon i dyfu llysiau a blodau.

Daeth yn argyfwng ar ôl is-etholiad Trefaldwyn a oedd yn un ardd i'r Blaid, mewn sir lle y mesurir cyfnewidiadau mewn ysbaid o amryw o genedlaethau.

Mae pedwar sylwedd cemegol sy'n bwysig iawn i'r ardd.

Mae'r nico, yr un mwyaf lliwgar o'r teulu, tipyn bach yn fwy swil, ond fe'i gwelir mewn llawer i ardd rhai adegau o'r flwyddyn.

Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.

Yna'r darlun cymysg a gawsai o Janet Hannah yn yr ardd ac wyneb Robin yn syllu'n ddiniwed ac yn ymbil am ei sylw.

Ted Huws, yr Ardd yw'r awdur, ac yn y cyflwyniad i'r llyfryn, dyma a ddywedir - "Ymroes Ted o ddifri i'r ymchwil ar ei destun.

Cemeg yn yr ardd.

Ymhlith y planhigion prin sydd mewn perygl, rhestrir lili'r Wyddfa, a'r lafant mor unigryw, Dewi Sant.GARDD SGWARIAU NEU ARDD AROGLAU

Yno y magai yn ei siol ei theulu niferus o gathod bach ac y llenwai bocedi'i brat ag afalau prenglas o'r ardd anial.

Robin y postmon wedi gadael clwyd yr ardd ar agor, a hithau'n gweiddi ar ei ol.

Yno y diflannai am oriau, yn blentyn, i hongian ar iet yr ardd, ac i smalio gyrru car mewn sgerbwd hen dractor rhydlyd.

Os defnyddir blodau blynyddol, gellir defnyddio'r ardd ar gyfer dosbarth newydd bob blwyddyn.

Mae Mai yn fis prysur ond, o ddefnyddio'r amser i wneud popeth yn ei dro, ni fydd yn rhaid rhuthro o gwmpas yr ardd.

Ceisiant wneud o Langors-fach ardd-winllan heb fod yn hollol ymwybodol o'r hyn a wnânt.

Camodd drwy ddrws y tþ i'r ardd a rhoi clustan i'r hen þr.

Dyma'r adeg i blannu planhigion ysgewyll Brwsel yn yr ardd agored gan adael tair troedfedd rhwng pob planhigyn a'r un gofod rhwng y rhesi.

Ymhen tridiau câi drafferth i lusgo'i gorff ar hyd llwybr yr ardd, gan ei fod yn ei ddau ddwbl erbyn hynny.

Gwêl Begw'r ieir yn swatio yng nghornel yr ardd 'a'u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i'w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer' (Tc yn y Grug).

Gellir gadael y gweddill, sydd i'w plannu maes o law yn yr ardd agored, yn y potiau tair modfedd a'u caledu.

gyda'r anifeiliaid, yn cysgu dan balfau cath uffern, yn chwennych y rhosyn, heb fynnu dyfod i'r ardd i'w gyrchu'.

Beth arall a ysbrydolodd T Gwynn Jones i gyfieithu nifer o epigramau Groeg, ac ychydig o'r Lladin, a'u casglu dan y teitl Blodau o Hen Ardd?

Wel, mae'r rhai o ardd gymaint yn well eu blas na'r rhai a dyfir mewn caeau.

Nid ar siawns y dewisir lleoliad y twll ac os bydd cae tro neu ardd yn cael ei thrin yn agos at ganolfan cwningod dyna'r lle y dewis y fam guddio'i hepil.

Helpu mam yn yr ardd.

Y mae cenhedlaeth ohonom yn fyw heddiw sy'n cofio cyfnod cannwyll yn y lloft, lamp olew yn y gegin, mawn yn y grat, ty bach ym mhen yr ardd, ceffyl yn y stabl, a siop bob peth yn y pentref.

Ond roedd yr ardd yn wag.

Y peth gwych ynglŷn â'r math yma o ardd yw ei bod yn hawdd ei chynnal a gellir ail-blannu pob darn bach yn ôl yr angen.

Dosbarth Glyder: Yn dilyn eu thema Tyfiant y mae'r dosbarth wedi bod wrthi'n trin yr ardd ac yn plannu bylbiau blodau ar gyfer y Gwanwyn.

Ar _l, te, my fyddai llawer o waith i'w wneud yn yr ardd.

Serch hynny, rwy'n cofio mynd ar neges ddirgel i dafarn y Prince of Wales, a oedd yn eiddo i ddau aelod o gapel fy nhad, mynd i mewn drwy'r ardd gefn yn ol ei gyfarwyddyd manwl, i brynu ychydig o frandi iddo am ei fod yn dioddef yn y gwely o'r ffliw ac am wella erbyn y Sul.

Yn ei ardd, bydd yn gweld y goeden yn ei chyfanrwydd.

Digwyddais fynd i ardd oedd tu cefn i dy tafarn yno, Ue yr ydoedd Stiwardiaid Gwydir, a mân foneddigion eraiU o Lanrwst yn cydyfed cwrw.

'Da' i ddim yn ôl i'r ardd eto'r bore 'ma.

Roedd y tap tu allan yn yr ardd gefn.

glan y mor, adar yr ardd, mamolion lleol, trychfilod a phryfed cop (corynnod) NEU ar gyfer grŵp o bethau y credwch a allai fod o ddiddordeb i blant e.e.

'Roedd llafur yn ddigon rhad hefyd i gasglu eu carthion a'u taflu neu eu defnyddio mewn rhan o'r ardd.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.

Byddai Miss Jones yn aros yn y fan gysegredig hon ac yn tynnu deilen brifet o'r gwrych, rhoi cusan iddi ac yna ei thaflu'n ôl i ardd yr Arolygydd.

Cofiaf fy mod i a'm chwaer yn rhedeg i ben ucha'r ardd i edrych am yr angladd, ac yn rhedeg yn ôl i'r tŷ i ddweud fod y dynion yn dechrau dod.

Awgrymwyd iddynt y dylid codi wyneb yr ardd (yng nghornel y maes parcio gyferbyn â'r groesfan tren) ac i'w ddefnyddio fel lle parcio cerbydau ar gyfer yr orsaf.

Bydd yn barod i ddechrau cydnabod ambell frycheuyn ym mherffeithrwydd yr ardd Eden sydd dan sylw.

Yn eu breuddwyd try'r tyddyn yn ardd ffrwythlon.

Byddai anti yn gweithio llawer yn yr ardd pan oedd y tywydd yn braf.

Yr oedd pawb ar lwgu, ond tra oedd eu mam yn paratoi pryd o fwyd - rhywbeth rhwng te a swper - aeth y plant i gyd allan, croesi'r ardd ffrynt ac i'r cae.

Rhoddir dyfnder ychwanegol i'r cyfeiriadau hyn gan gyfeiriadau eraill sydd o gryn bwysigrwydd, sef i'r ardd-winllan sydd wedi'i sefydlu fel delfryd diwydiannol gan awdur Buchedd Garmon.

Agorodd Mrs Eurwen Parry ei chartref i gynnal noson goffi, ac ar noson arbennig o braf ddiwedd Mehefin daeth tyrfa i Gae Bold i fwynhau loetran uwchben paned a sgwrs yn yr ardd.

Rhedeg i ben ucha'r ardd eto ac yn ôl i'r tŷ drachefn.