Mae adran helaeth arall (sef yr oriel barhaol) yn cyflwyno hanes, diwylliant ac amgylchedd Môn i'r cyhoedd, drwy gyfrwng cyfres o arddangosiadau llawn dychymyg.
Fel mae'r enw'n awgrymu, nid yw'r arddangosiadau'n cael eu newid rhyw lawer yn yr oriel barhaol.
Croesawir grwpiau ysgol i'r Oriel yn aml iawn a chynigir sgwrs a thaflenni gweithgareddau iddynt ar rai o'r arddangosiadau sydd yn yr oriel barhaol.