Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arddel

arddel

Fe aeth rhai mor bell a dweud fod yna berthynas, gan fod y ddau deulu'n arddel yr un cyfenw.

I gael Cymru i arddel gwleidyddiaeth y Dde.

Wedyn, dyna'r gwalch arall hwnnw oedd wedi sylwi fod miloedd o fodurwyr yn arddel y ddwy lythyren gyfarwydd 'AA', yn penderfynu rhoi ar ei ffenestr ef y ddwy lythyren 'BB'.

Y mae rhoi clust i'r gri yng nghanol adfyd yn gyfraniad amhrisiadwy ac yn gyfrifoldeb y dylai hyrwyddwyr iaith ei arddel.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

A hyd yn oed pe cyfeiriem at ffigur llai trawiadol byth yn hanes ein llenythiaeth, Alun Cilie dyweder, ni feddyliem arddel y fath derminoleg byth bythoedd.

Er iddi arddel rhyw syniad o fynd i nyrsio pan yn eneth ifanc, roedd y profiad gyda'r cwmni yn ddigon i ddarbwyllo Judith mai at fyd actio y buasai ei llwybr gyrfaol yn arwain.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Hawdd y gallai arddel datganiad hysbys y dramodydd Lladin, Terentius, "Homo sum: humani nil a me alienum puto% - "Dyn wyf: nid ystyriaf ddim dynol yn ddieithr imi%.

Penderfynodd y Gymdeithas y bydd unrhyw glwb sy'n dymuno parhau i chwarae yn Lloegr y tymor nesaf yn cael ei ddi-arddel o FA Cymru.

Yr oedd gwneud y fath hawl, wrth gwrs, yn mynd at wreiddyn a sylfaen y berthynas rhwng Cymru a Lloegr, yn tanseilio'r berthynas honno, ac yn gosod i fyny deyrngarwch newydd yn lle'r teyrngarwch i'r wladwriaeth Brydeinig y disgwylid i bob Cymro, fel pob Sais, ei roddi a'i arddel yn rhinwedd ei ddinasyddiaeth.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Efallai y dylai'r eglwysi hefyd arddel ychydig mwy o onestrwydd ynghylch y broses o greu seintiau.

Ond nid oedd yn ymgroesi rhag arddel peth cysylltiad â'r wladwriaeth.

Buasai Josepho hefyd yn Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartref, ond fe gyfaddefodd yn agored nad oedd wedi arddel teimladau gwresog at bobl y wlad honno.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

Faint ohonom, er enghraifft, sy'n gofalu arddel yr iaith ymhlith ein cydnabod ond sy'n cefnu arni pan awn i gwmni dieithriaid?

ac arddel teg urddas' a'r fangre lle 'y rhed gryn anrhydedd; gras glân'; a dyrchafwyd y penteulu yntau'n ŵr o 'lendid a ffyddlondeb'.

O ganlyniad i'r drafodaeth honno, lluniwyd y cynnig cyfaddawd, nad wyf mwyach yn cofio'i berwyl, mwy na'i fod yn gadael y ffordd yn rhydd i unrhyw aelod o'r Blaid arddel y syniadau economaidd a fynnai, er bod y Blaid yn datblygu polisi economaidd arbennig.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.

Credwn ei fod yn gwbl angenrheidiol fod y Cynulliad yn arddel a gweithredu polisi dwyieithog cyflawn o'r diwrnod cyntaf.

nid yw'n rhyfedd fod pawb yn cilio ...i'w ffyrdd eu hunain, a chywilydd ganddynt arddel gwaith y dydd...

Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.