Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

areithiau

areithiau

Saxony - dau gant o Neo-Natsi%aid yn ymgynnull ar faes gwersylla, gan chwarae cerddoriaeth a thraddodi areithiau Ffasgaidd eu cynnwys, ac ymosod ar wersyllwyr eraill.

Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.

Roedd hi'n dechrau pluo eira'n ysgafn wrth i Monsieur Le Maire ddechrau ar un arall o'i areithiau ar sgwâr y dref.

Traddodwyd areithiau tanbaid gan eraill.

Cynhaliodd ei hun yn lled lwyr am flynyddau, drwy werthu pamffledau o'i farddoniaeth, neu bregethau, neu areithiau byrion ac ymffrostiai mai efe oedd yr unig fardd Cymreig oedd yn gallu byw ar ei dalent, a chwarae teg iddo, yr oedd yn bur agos i'w le .

Eithr nid oedd llais Hardie yn llef unig, ychwaith: cafodd atsain yn areithiau ambell AS Rhyddfrydol, ac yng ngholofnau rhai papurau newydd.

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Mae gen i record o Martin Luther King yn traddodi tair neu bedair o'i areithiau mawr.

Nid yw'r ffaith fod awdur modern yn digwydd gwneud cyfeiriad troed-y- ddalen at un o areithiau'r Pab Ieuan Pawl II yn profi ei fod yn gogwyddo at Babyddiaeth.

Cyfuniad o'r ffactorau penodol Almaenig hyn a digwyddiadau ehangach megis y rhyfel yn Fietnam oedd thema un o areithiau cynharaf Schneider.

Yn groes i hynny, os ewch ymlaen bymtheg tudalen fe gewch eich cymell i wrando ar un o areithiau mwyaf grymus, a mwyaf dyfynadwy, y Bardd o Stratford, mor huawdl nes ei bod yn berwi drosodd chwarter y ffordd i lawr y tudalen nesaf.

Ar y llwyfan, fe gafwyd rhes o areithiau sychion a datganiadau cerddorol yn llawn gallu technegol ond yn brin o angerdd.

Yn ystod yr areithiau swyddogol rwy'n siŵr fod pawb yn meddwl pwy yn y byd oedd y ferch groenwen hon oedd ar delerau mor dda â'r Arlywydd.

Roedd wedi bod yn frwd o blaid yr SPD, hyd yn oed i'r graddau iddo ysgrifennu areithiau ar gyfer ei gwleidyddion, ynghyd ag, ymhlith eraill, Gudrun Ensslin a oedd yn ddiweddarach yn un o aelodau mwyaf blaenllaw mudiad treisgar yr RAF (Rote Armee Fraktion/Y Fyddin Goch).

A thrôdd yr holl areithiau huawdl ac eneiniedig a glywswn ar "Natur Eglwys", yn dom ac yn golled i un pechadur arall.

Cofiwch am stori'r dderwen a'r brwyn." Roedd y Groegiaid wrth eu boddau yn clywed stori%au ac yn aml iawn roedd stori%au yn darlunio rhyw agwedd ar fywyd yn cael gwell gwrandawiad na phregethau yr offeiriaid ac areithiau'r gwleidyddion.

Cafwyd areithiau 'grymus a hyawdl' ganddo ef, a chan nifer o weinidogion lleol, gan gynnwys Nefydd o'r Blaenau, a'r Parchedig J.