Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arferiad

arferiad

Gyda'r pwyslais diweddar ar iechyd corff a chadw'n heini drwy chwaraeon daeth yr arferiad o smocio o dan y lach.

Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.

Mae'r diwrnod yma yn wyl swyddogol yn y dalaith a'r arferiad yw mynd i un o'r capeli Cymraeg am de ac adloniant.

Dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y daeth yn arferiad cyffredin i roi olwyn sbar gyda charafanau newydd, a dyw hynny ddim yn digwydd gyda phob un hyd yn oed yn awr.

Ar Galan Mai ers talwm byddai'n arferiad addurno bedwen dal a dawnsio o'i chwmpas.

Heddiw mae'n arferiad cyffredin gan rai i ymweld â'r farchnad unwaith neu ddwy yr wythnos.

Daeth terfyn ar y drefn seml hon pan wnaed y pastynwyr yn arglwyddi ac iddynt hwythau wneud deddf i roi pen ar y fath arferiad barbaraidd ac amharchus.

Dyna paham y mae'n arferiad i ddangos yn y cyfrifon y ffigurau cyfatebol am y flwyddyn flaenorol, ac yn wir bydd llawer o gwmni%au cyhoeddus yn ychwanegu tablau o ffigurau allweddol dros gyfnod o, efallai, ddeng mlynedd.

Roedd yn arferiad gan setwyr o chwareli ithfaen symud o le i le pan oedd y fasnach sets wedi arafu ac fe gawn fod amryw yn mynd dros y dwr o Drefor o dro i dro.

Y mae effeithiau eithaf a gwaethaf yr arferiad mor eang ac amrywiol fel y mae yn amhosibl rhoddi cyfrif o'u nifer na mesur i'w hehangder."

Fe fu'n cynnal Dosbarth Allanol yn Nhalgarreg am flynyddoedd, ac fe fu'n arferiad ganddo draddodi 'darlith haf' ar ben yr hen odyn galch ar draeth Cwmtydu, bob mis Awst.

Hen arferiad budr.

Hen arferiad cas gan Owain Goch oedd tynnu yng ngwallt yr eneth fel tynnu ym mwng march.

Arferiad y bobl gyffredin yn unig oedd hyn, fodd bynnag.

A bod yn onest hen arferiad diflas a swnllyd oeddwn i yn ei gael o.

Dywed nad yw Dwynwen yn rhwystro godineb a chyfeiria at yr arferiad o bererindota i Ynys Llanddwyn er mwyn datrys problemau serch.

Pe gwaherddid yr arferiad hwn, byddai hyn ynddo'i hun yn lleihau costau triniaeth lawfeddygol yn sylweddol.

Hyd at yr adeg yma arferai gredu mai hi oedd piau'r pethau ychwanegol a ddeuai gyda'r defnyddiau ond yn awr sylweddolodd y byddai'n lladrata wrth fynd â'r bluen, ac er i'r bluen fod yn demtasiwn fawr iddi'r bore hwn, rhoes heibio'r arferiad.

Clywais ef yn sôn gyda chryn siom am yr arferiad o urddo pob ysgrifennydd cyffredinol yn aelod o'r Orsedd ar ddiwedd ei yrfa.

Pa sawl un a yrrodd yr arferiad i geisio boddi ei ofidiau yn y dafarn?

Mi ddywedwn i mai go brin y mae unrhyw reswm i beidio â bwyta pryd fel hyn o dro i dro ond peidio â'i wneud yn arferiad dyddiol a pheidio â bwyta gormod ar y tro.

Ac nid mamau yn unig - ond tadau yn ogystal, arferiad na welid mohono ym Morgannwg y dauddegau.

Daw'r gwahaniaethau rhwng y ddwy gymdeithas i'r golwg yn eu hagwedd at ddau arfer cymdeithasol, sef mabwysiadu a'r arferiad i ddyn briodi gweddw ei frawd er mwyn codi teulu iddo.

Hen arferiad yr ymdrech a lynodd wrtho o'i blentyndod.

Y Tywysog Albert, gŵr Victoria, ddaeth â'r arferiad (o'r Almaen) o gael coeden wedi ei haddurno.

Mae'n arferiad gennyf roddi tair owns o'r halen Epsom mewn peint o ddwr claear i'r fuwch rhyw wythnos cyn ei hamod, gan fy mod yn meddwl ei bod yn well osgoi trafferth na'i gyweirio!

Serch hynny, tebyg iawn y byddai'r arferiad yn anghyfreithlon hwnnw.

Ers talwm roedd yr arferiad i olchi rhan briwedig o'r corff gyda cherpyn a dŵr y ffynnon ac yna clymu'r cerpyn i frigau'r ddraenen.

Mae'r arferiad o addurno'r tai gyda phob math o ddeiliach fythwyrdd yn mynd yn ôl i'r oesoedd paganaidd pan oedd pobl yn cael eu hudo gan y coed fythwyrdd oedd yn ffynnu fel pe baent o dan rhyw ddylanwad hudol yn ystod hirlwm y gaeaf pan oedd pob dim arall yn ymddangos yn farw.

Fe'm hysbysir gan fy mhlwyfolion na bydd gennyf forwynion o gwbl ac y bydd yn amhosibl i mi gael neb os na chaniatâf yr arferiad.

Credir gan archaeolegwyr mai beddrod o Oes y Cerrig Newydd yw'r Garreg mewn gwirionedd, ond mae'r chwedl yn esiampl arall o arferiad ein cyndadau i geisio egluro nodwedd hynod yn ein tirlun.

Efallai y bydd hynny'n haws iddynt ar ôl darllen yr Atodiadau i'r gwaith, ar y diagram Diamwnt, sy'n fap o'r seici, ac yn dilyn arferiad cyfrinwyr yn Nhibet, India a Tsieina.

Lleinw yr arferiad y meddwl â dymuniadau aflan ac anghyfreithlawn, gan droi y dyn yn gaethwas i'r chwantau ffieiddiaf, ac yn ysglyfaeth i'r canlyniadau mwyaf echryslon.

Rheswm arall oedd yr arferiad gwrthun o dyrru pobl priod a sengl o'r ddau ryw yn yr un ystafelloedd gwely, ac yn aml iawn mewn gwelyau nesaf at ei gilydd heb un llen rhyngddynt.

Yr hyn a'm cynhyrfodd i gyfansoddi y ffug-chwedl a nodwyd ydoedd fy mawr gasineb at yr hen arferiad gyffredin o nosgarwriaeth, ynghyd â deall fod yr unrhyw ar gynnydd mawr, a'r drygau annifeiriol cysylltiedig â hi yn annioddefol mewn llawer man .

Un arferiad barbaraidd sy'n gysylltiedig â Dygwyl Steffan yw'r un a seiliwyd ar y gred fod gollwng gwaed o fudd mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.

Tebyg iawn mai'r rheswm am i'r arferiad orffen oedd bod gormod o ieuenctid yr ardal wedi gadael i chwilio am waith.

Ond, dim ond y byddigions oedd yn dilyn yr arferiad yma, ac nid oedd coeden Nadolig i'w gweld yn y cartrefi cyffredin hyd y ganrif hon.

Cyhoeddi'r farwolaeth heb unrhyw drimins oedd yr arferiad.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.