Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arferid

arferid

Yr hen ddull o amaethu a arferid yno hyd y diwedd, gyda cheffylau gwedd yn tynnu'r offer i gyd.

Cyfrol yw hon sy'n cyflwyno anterliwtiau - sef y dramâu hynny yr arferid eu perfformio ar sgwâr y dref, er enghraifft, yn y ddeunawfed ganrif.

Ystyrid sug y planhigyn yn feddyginiaeth bwerus ac arferid cymryd peth ohono yn y gwanwyn i buro'r gwaed.

Yn ystod y Dadeni Dysg arferid mwy nag un ffordd o edrych ar hanes.

Fel hyn yr arferid gwneud ond heddiw, gydag offer hwylus i wasgu'r sudd allan, hawdd yw cael y sudd amrwd o'r gwraidd.

Yn cynorthwyo'r golygydd, felly, ac yn rhannu'r baich ag ef, mae dau neu dri is-olygydd, neu ymchwilwyr fel yr arferid eu galw.

Credir bellach fod yr enw Gloddaith - enw plasty ger Llandudno - yn cyfeirio at fan lle yr arferid cynhyrchu golosg.

Fel rheol, penyd preifat a arferid yn yr eglwysi Celataidd, ond gan ei bod yn bosibl i'n hawdur gael ei ddylanwadu arno gan arferion Lloegr, mae'n ddiddorol sywli ar yr hyn a ddywed T P Oakley.

Un o'r pethau a filwriai yn erbyn fy ngwerthfawrogiad o'r capel oedd yr iaith a arferid yno.

Canys yn y dyddiau cyn dyfod i feddwl dyn ddarganfod trydan, arferid tynnu'r trenau i ben y bryn gyda chymorth mul.

Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.

Fe arferid edrych arni fel cyfrwng diddanwch munud awr yn unig, ond gan fod teledu'n cynnig y diddanwch hwnnw bellachd wedi mynd heibio er pan enillo, gall y nofel fentro plymio i'r dwfn a dehongli pethau yn ogystal ag adrodd stori.

Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.