Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arfog

arfog

Ond gwelir y pwyslais o hyd ac o hyd ar y ddadl fonetaraidd gul o 'Proffit, Proffit a mwy o Broffit.' Nid oes angen dweud nad yw'r cyfryngau hyn yn gweld gwastraff gwariant ar y lluoedd arfog.

Gan ei bod yn gyfnod o ryfel, ein llwyddiant fel myfyrwyr meddygol yn unig a'n cadwai o'r lluoedd arfog.

Yn aml fe gafodd y Chwaer Jean ei dihuno gan filwyr arfog ganol nos a'i chroesholi am eu bod nhw'n amau ei bod hi a'i chyd-weithwyr yn rhoi lloches i'r FMLN.

Ar y naill law nid oedd tristwch ymhell gan fod bechgyn yn cael eu gwysio i'r lluoedd arfog ac yn diflannu o'n mysg - rhai ohonynt am byth.

Safai dau filwr arfog wrth y porth oedd yn arwain i'r Orsaf.

Nid yw'n dweud ai i'r lluoedd arfog yr a, ond dichon hynny.

Ymddangosodd milwr arfog dros y gorwel a rhedeg i lawr y llechwedd.

Daeth yr ymosodiad ddiwrnod wedi i Arafat ddweud iddo ofyn i wyr arfog beidio saethu at yr Israeliaid yn yr ardaloedd sydd dan reolaeth y Palesteiniaid.

Y corachod arfog.' A phoerodd mewn diflastod.

Nid heddychwr mo Saunders Lewis ond gwelai'n eglur, yng ngoleuni ei egwyddorion ei hun, nad oedd nac ymarferol na chyfiawn i frwydro'n arfog dros ryddid ei genedl.

2 filiwn rhwng 19 a 27 oed yn cael eu galw i'r Lluoedd Arfog.

Gorfodwyd 5,300,000 i ymuno â'r Lluoedd Arfog.

Oblegid creodd gatrodau o feirchfilwyr arfog, a wibiai'n gyflym ar draws gwlad gan beri dinistr i filwyr traed araf y Saeson.

Pan glywodd y Pictiaid yr halelwia'n diasbedain tybiasant fod llu o Gymry arfog yn barod am eu gwaed.

Awgrymodd y dyn camera y byddai'n ddarn mwy trawiadol pe bai modd gweld blaen gwn un o'r pedwar gwarchodwr arfog yr oedden ni wedi'u llogi cyn camu o'r awyren.

Bu'n rhaid aros am ryfel byd arall i gael gwaith yng Nghymru i'r Cymry na chonsgriptiwyd mohonynt i'r lluoedd arfog.

Brodor o Glyncorrwg oedd Mr Mitchell ac ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y rhyfel aeth i goleg hyfforddi athrawon.

Ymladdfa real ond sifalri%aidd, briodol i farchog urddol yw natur y cae niwl, nid ysgarmes carwr eiddigeddus â threiswyr penffordd arfog.

Roedd cannoedd o ddynion arfog yn arwain yr orymdaith.

Yna arweinwyd fi at yr ystanc trithroed, a thyrfa fawr o filwyr arfog yn fy amgylchynu.

Pryd yn wir y gwelwn ni'r trethdalwyr 'Proffit' ar y lluoedd arfog.

Mae Cyrnol Grant yn 'y nisgwl i." meddai wrth y milwyr arfog.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 2 filiwn rhwng 19 a 27 oed yn cael eu galw i'r Lluoedd Arfog.

O ganlyniad i'r trafodaethau hynny daeth i'r casgliad fod llawer mwy o ddarllen a meddwl o ddifrif o du'r ifanc yn y Lluoedd Arfog nag a welwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Proffit ar y diwydiant cythreulig 'arfau' a pryd y gwelwn broffit ar y diwydiant Amaeth, sydd yn ol un aelod seneddol Toriaidd, Richard Body, o Sir Norfolk y 'Laime Duck' mwyaf o holl ddiwydiannau ein gwlad.' Nid yw felly yn anodd dod i'r penderfyniad fod y Diwydiant Arfau, Y Lluoedd Arfog, ac Amaethyddiaeth yn diwydiannau y gellir cael elw gwleidyddol Toriaidd ohonynt, ac ar yr un pryd wrth faeddu digon ar Undebaeth a newid rheolau a chyfreithiau'r wlad y mae'n hawdd dylanwadu ar y 'Floating Vote'.

Wrth i'r wawr dorri roedd milwyr, a cherbydau arfog Israel yn croesi'r ffin yn ôl i ogledd eu gwlad.

T^y'r Cyffredin yn cymeradwyo gorfodi dynion sengl rhwng 18 a 41 oed i ymuno â'r Lluoedd Arfog.

Faswn i feddwl nad trwy anfon lluoedd arfog yno y mae datrys problem y trueiniaid hyn ond trwy of alu nad yw arfau rhyfel yn mynd yno.

Gorfodaeth ar ddynion Prydeinig dros 20 oed i ymuno â'r Lluoedd Arfog.

Cafwyd tystiolaeth debyg am ymagwedd y Lluoedd Arfog tuag at y Rhyfel gan gaplaniaid pob enwad fel ei gilydd.

Parhaodd hyn trwy gydol y rhyfel, ond gyda hyn o ddirywiad yn y sefyllfa: perswadiwyd glowyr Cymru i fynd i'r lluoedd arfog wrth yr ugeiniau o filoedd a chymerwyd eu lle gan Saeson a mewnfudwyr eraill.

Roedd yn rhaid i ni, er hynny, ddilyn ymarferiadau milwrol am dair wythnos bob blwyddyn a hwnnw'n gyfnod di-dor, ond caem ddewis i ba adran o'r lluoedd arfog y dymunem ymuno â hi.

Bu yn y Dwyrain Canol, lle roedd gan y Cymry a oedd yn y lluoedd arfog Glwb Cymraeg yn Cairo.

Cynhaliwyd dosbarthiadau yn rheolaidd yn Cairo a Phalesteina i Gymry yn y Lluoedd Arfog yn y Dwyrain Canol, lle trafodwyd problemau moesol, pynciau'r ffydd, a chymdeithaseg.

Mewn memorandwm at y Pwyllgor dywedodd fod presenoldeb milwyr arfog yn ddigon i ddofi dynion terfysglyd, er hynny '...' .

Ond doedd MasCanosa ddim yn gweld bod angen bellach am ymosodiadau arfog, gan y byddai Cuba'n cael ei thagu yn economaidd ymhen fawr o dro.

A thra yr oedd hyn oll yn digwydd beth oeddan nhw yn ei wneud yn y senedd fawr yn Llundain? Ffraeo ynglyn â faint o arian ddylair lluoedd arfog eu cael am anfon hofrenyddion yno i helpu.

Wrth gydnabod dilysrwydd patrwm crefyddol aelodau o'r Lluoedd Arfog, a'r difrawder a fynegwyd yn eu hatebion i'r holiadur, ychwanegodd Gwenan Jones mai'r un oedd ymagwedd yr ifanc nad oedd yn y Lluoedd.

Ond yr oedd y mwyafrif llethol o aelodau'r Lluoedd Arfog y cysylltodd â hwy, wedi ymwadu'n bur gyffredinol ag iaith draddodiadol crefydd a diwinyddiaeth.

Roedden ni'n cael ein hebrwng gan jîps ac roedd yna ddynion arfog o'n cwmpas wrth inni gerdded i mewn i bencadlys y PSB.

Mae'r amgylchiad yn cael ei gofio gyda gorymdaith ym mhob tref gyda'r holl luoedd arfog yn cymryd rhan ochr yn ochr ag ysgolion a gwahanol gymdeithasau - pawb yng ngwisg eu hardal.

Bowen, hefyd, athro yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, natur yr ymbellhau o du'r ifanc yn y Lluoedd Arfog.

Cannoedd o wahanol adrannau o'r Lluoedd Arfog, rhai yn teithio gyda 'full pack', eraill yn troedio'n ysgafn, dynion a merched a channoedd hefyd o sifiliaid.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Cost y Rhyfel i Gymru: lladd 20,000 yn y Lluoedd Arfog a'r Llynges Fasnach; 1000 wedi eu lladd yn y bomio; tua 350,000 o 'faciwis wedi dod i Gymru, a'r Swyddfa Ryfel yn meddianu 200,000 erw, sef 10%, o dirwedd Cymru.

Yna wrth i'r golau tanbaid lifo i mewn fe welais amlinell lori'n gwegian dan ei llwyth o sachau a dynion arfog yn syllu'n herfeiddiol ar bawb a phopeth.

O'r uchder hwnnw medrai weld dros y wal arswydus honno, `Wal Berlin.' Am un mlynedd ar hugain roedd y wal hon, gyda'i thyrrau'n llawn o ddynion arfog, ei chŵn a'i chaeau'n llawn o ffrwydron cudd, wedi rhannu'r ddinas yn ddwy.

Goddiweddwyd y Lluoedd Arfog gan ymdeimlad o anobaith oherwydd eu hofnau ynglŷn â'r dyfodol.

Llu arfog dosbarth-canol, felly.

Roedd wedi anghofio'n llwyr mai yno ar orchymyn yr oeddynt a bod rhes o filwyr arfog y tu ôl iddyn nhw.

Cafodd gyfleusterau, hefyd, i ymweld â'r Lluoedd Arfog a thrafod gyda hwy faterion cymdeithasol, addysgol, a chrefyddol.