Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argoel

argoel

Mewn ffaith, does dim argoel bod llawer yn digwydd i fynd i'r afael a'r gwelliannau hollol angenrheidiol yn ardal y Bedol ond mae'r sefyllfa yn debyg i nifer o ardaloedd eraill yng nghefn gwlad Cymru.

Roedd yn hanner awr wedi un, ond doedd dim argoel o flinder yn agos ati.

Roedd hi newydd fod am dro yn y berllan gan sylwi gyda phleser fod y coed ffrwythau'n llawn blodau - argoel y byddai yna gnwd da yn yr hydref.

Y fath lafur ydoedd yn y dyddiau gynt i dorri'r gwair, ei hel, a'i fydylu ambell waith os oedd argoel o wlaw, yna 'tannu'r' mydylau drachefn, a'i huloga, a'r cyfan gyda phicffyrch.

Aeth ias oer dadrithiad trwof fel yr argoel gyntaf o'r ddannoedd, yn annisgwyl, yn ddigroeso, yn awgrym o drwbl i ddod.

Ac nid oes argoel am ei gwell.