Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argoeli

argoeli

Mae'n argoeli'n dda i Ronnie O'Sullivan.

Eisteddasom ar gerrig oedd bron o'r golwg dan orchudd o fwsog a chen llwyd wyrdd ac oren a bonion clustog Fair yn argoeli gwledd o liw yn yr haf.

Mae'n argoeli am gynhaeaf ŷd ffrwythlon a phroffidiol; llawnder i dorri pob record.

Mae'r prawf cynta rhwng cricedwyr Sri Lanka a Lloegr wedi dechrau y bore yma yn Galle a mae pethau'n argoeli'n dda i'r tîm cartre ar hyn o bryd.

Gwyddai oddi wrth yr ychydig lythyrau a ddilynodd nad oedd pethau'n argoeli'n dda i Lynges Prydain yn India'r Gorllewin - Eistaing, a'r Llyngesydd a'i holynodd, Comte de Guichen, yn gyfrwys, y morwyr a'r milwyr yn anystywallt, afiechydon yn rhemp a llong ugain oed fel y Cornwall yn gollwng fel basged.

Adroddodd bod trafodaethau gyda chwmni penodol a'u bod yn argoeli'n dda am gael cytundeb gyda'r cwmni.

Mae'n argoeli'n dda arnyn nhw am ddyrchafiad.

Yn ôl y fformiwla sydd wedi ei grybwyll 'roedd yn argoeli'n dda i gefn gwlad o ran cynrychiolaeth.

Mae hi'n argoeli'n flwyddyn a hanner i artistiaid Cymreig felly, ac ni allwn ond dymuno pob lwc i bob un, er nad oes angen peth felly ar yr un ohonyn nhw.

Na, 'doedd petha' ddim yn argoeli'n rhy dda .

Taranau Mehefin yn argoeli ydau bras.

Yn Llanelli mae'n fore sych a hynny yn argoeli am gêm agored yn erbyn Caerloyw ar Barc y Strade, yn ôl Ray Gravel.

Mae'r arwyddion cynnar yn argoeli'n dda i'r Clwb diweddara yma yng ngwlad yr haul a'r tywod.

Yn barod, mae 2001 yn argoeli'n dda i artistiaid di-Gymraeg yr hen Gymru fach wrth i'r wasg gerddorol eu holi yn rheolaidd, yn ogystal â'u cynnwys yn y tudalennau newyddion yn wythnosol.

Gyda'r mwya o bleidleisiau erioed wedi eu bwrw maen argoeli'n noson wych.