Yn wir, fe all fod yn amhosibl dyrannu'r argost ar unrhyw sail synhwyrol, a byddai ceisio gwneud hynny'n rhoi atebion hollol gamarweiniol.
Rhaid sylweddoli, hefyd, bod anawsterau mawr yn codi mewn rhai achosion wrth geisio penderfynu faint o argost y dylai unedau'i gario.
Gall dosraniad anghywir o'r argost effeithio ar bolisi prisio'r busnes, a bod yn niweidiol pan yw'n gwestiwn o gynnig pris yn erbyn cystadleuaeth.
Er mwyn cyfrif yr argost, y mae'n angenrheidiol gwneud amcangyfrif o'r treuliau anuniongyrchol ymlaen llaw, a phenderfynu hefyd ar gynllun neu sail i'w dosrannu.
Fe ellir cyfrif yr argost fel canran o gost defnyddiau, neu o gost llafur, neu o'r ddau gyda'i gilydd; ffordd arall ydyw seilio'r argost ar faint o amser y defnyddir peiriannau ar y gwahanol dasgau.