Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argraffiad

argraffiad

Pam y penderfynwyd defnyddio argraffiad Charles ac Oliver sy'n malurio'r testun gwreiddiol yn enbyd?

Ef a wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiwygio iaith y Beibl Cymraeg cyn cyhoeddi argraffiad 1620 ohono yn dilyn cyfieithiad cyntaf Morgan.

Fel ei gyd-athrawon yn Adrannau Cymraeg eraill tri choleg y Brifysgol, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu rhan fawr o'r tetunau llenyddol y gelwid arno i ddarlithio arnynt ac aeth llawer o'i ynni a'i amser i gyhoeddi defnyddiau felly - argraffiad o gywyddau Goronwy Owen, a blodeugerdd o farddoniaeth yr Oesoedd Canol.

Mae hwn wedi profi yn un o'r llyfrau mwyaf llwyddiannus, wedi mynd i sawl argraffiad ac wedi bod ar restr llyfrau gosod y Cyd-Bwyllgor Addysg am flynyddoedd.

Nid oes gennym yn awr ond sôn am argraffiad diwygiedig o'r Beibl.

Ysywaeth, mae'n debyg na fydd yr argraffiad presennol yn mwynhau'r un math o gylchrediad eang a chroeso cyffredinol ag a gafodd stori%au'r Greal yng Nghymru ac Ewrop yr oesoedd canol, aeth y chwedlau a roddodd gymaint o fwynhad i'n cyndadau canoloesol bellach yn faes academaidd bur.

Gwyddys bellach mai ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ddwyn allan argraffiad diwygiedig o'r Beibl a wnaeth yr Esgob Parry, a chael gan ei gyfaill ysgolheigaidd a galluog, person Mallwyd, wneud y rhan fwyaf o'r gwaith.

Diau ei fod wedi troi i ddarllen yr hyn a ddywedid am y plwyf yn yr argraffiad newydd o Britannia William Camden a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol.

Fe ŵyw y cyfarwydd am ymchwil Neil Wright a'i gyd-weithwyr i ddirgelion traddodiad testunol Sieffre, a blaenffrwyth y gwaith hwnnw yw'r argraffiad gofalus hwn.

Gobeithiwn y bydd yr argraffiad newydd hwn yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o Gymry i weithio dros eu cenedl a'u hiaith, a gobeithiwn y bydd yn rhoi hwb i eraill ail-afael yn y frwydr.

Nid fod ein dyled ronyn yn llai iddo ar ôl inni wybod hynny, oblegid cryn dipyn o orchwyl oedd llywio cwrs argraffiad diwygiedig hyd yn oed pan oedd rhywun arall yn gyfrifol am y diwygio.

Credem yng Nghymdeithas yr Iaith mai'r deyrnged orau a allem dalu er cof am Saunders Lewis oedd cyhoeddi argraffiad newydd o'i ddarlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu'r Gymdeithas, ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w haelodau byth er hynny.

Yn ystod y ganrif cyhoeddwyd saith argraffiad ohono, heb gyfrif yr argraffiad canmlwyddol a dau argraffiad yn America.

Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn yn 1961 yn wreiddiol.