Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argyhoeddiad

argyhoeddiad

Yn rhannol o argyhoeddiad, yn bennaf rhag creu lle i Gwydion a'r bychan edliw.' 'Pwy ydi'r bychan?

Fel gŵr cadarn ei argyhoeddiad gafaelai Jacob ym mhopeth gyda'i holl egni a rhoi o'i orau glas er sicrhau urddas a graen i'w gyfraniad.

Y peth sy'n drawiadol am y traddodiad Cymreig yw'r argyhoeddiad fod y gwerthoedd a'r safonau sy'n ysbrydoli'r rheolau'n rhai ar gyfer gwerin gwlad, nid yn unig ar gyfer clerigwyr, mynachod a lleianod.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Er i'r teimlad yma o fod allan yn yr oerfel fod yn gyffredin, bu cryn gefnogaeth i athrawon meithrin o du argyhoeddiad ymgynghorwyr ac athrawon ymgynghorol yr Awdurdodau Addysg Lleol.

Y Crist croeshoeliedig ac atgyfodedig, yn ôl y argyhoeddiad hwn, yw egwyddor gyfannol y greadigaeth i gyd.

Unwaith y mae'r argyhoeddiad hwn yn pallu, mae'r pregethwr yn colli ei ddifrifoldeb.

Golwg wahanol ar Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg a gawn yn Dyddiadur Mari Gwyn Rhiannon Davies Jones sy'n seiliedig ar fywyd Robert Gwyn y ffoadur Catholig yn oes Elizabeth, ac y mae Bobi Jones yntau'n ymdrin ag argyhoeddiad crefyddol ysol Richard Gwyn y merthyr Catholig yn Gwed Gwyn yn Barn.

Yr oedd tasg anferth o fawr o flaen y pwyllgor; trefnu ymgyrch trwy bob rhan o Gymru i oleuo ac addysgu a chreu argyhoeddiad ac at hyn trefnu'r gwaith manwl o fynd a ffurflen y Ddeiseb o dŷ i dŷ, nid yn y pentrefi Cymraeg yn unig ond hefyd yn yr ardaloedd poblog a Seisnig yn Sir Fynwy (Gwent erbyn hyn), Morgannwg a mannau eraill.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Daeth pregethu'n fwy angerddol, yn anelu'n uniongyrchol at gau pobl ym mwlch yr argyhoeddiad, yn llai ffurfiol ei arddull.

Yr oedd argyhoeddiad cadarn Thomas Charles ynglyn â defnyddio'r Gymraeg yn mynd i ddylanwadu ar gannoedd o filoedd o bobl yn ystod y ganrif.

Ar un o'r ystadau hyn yn ardal Pentwyn ceir eglwys arbennig iawn sydd wedi llwyddo i wreiddio'r argyhoeddiad efengylaidd ymysg y gymdeithas.

Ac yntau'n Rhyddfrydwr o argyhoeddiad, roedd ganddo ddiddordeb byw yn achos y bobl dduon - y Niggers chwedl ef - ac yn y frwydr tros ryddid iddyn nhw.

Mae'r neges yn gyson - rhaid datblygu cyfundrefn sy'n parchu yr amgylchfyd - a chofleidir, gydag argyhoeddiad amrywiol, yr egwyddor o ddatblygiad cynaladwy.

Fy argyhoeddiad personol yw fod syniadau an-Feiblaidd a hiwmanistaidd wedi gweithio fel cancr yng nghalonnau llu mawr o grefyddwyr ac nad oes obaith gweld adferiad heb edifeirwch diwinyddol a dychwelyd at "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint".

Yr un argyhoeddiad a barai i Cradoc fynnu fod y saint i gyd yn gyfartal â'i gilydd.

Erys argyhoeddiad sylfaenol Gwynfor Evans yn gadarn.

Y peth sy'n rhoi min ar y genadwri Gristionogol mewn unrhyw oes yw'r argyhoeddiad fod ei derbyn neu ei gwrthod yn fater o dragwyddol bwys.

GO Williams yntau, mewn anerchiad rhagorol iawn, mai fel unigolyn yr oedd yno, yn mynegi ei argyhoeddiad personol ef ei hun.

O ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, gyda thwf heresi%au peryglus megis Waldensiaeth ac Albigensiaeth, dwysa/ u a wnaeth yr argyhoeddiad mai 'llyfr gosod', fel petai, i'w neilltuo ar gyfer uwchastudiaethau diwinyddol y prifysgolion oedd y Beibl.

Yr un argyhoeddiad a ysbrydolai Thomas Charles o'r Bala.

Y casgliad a dynnaf oddi wrth yr argyhoeddiad hwn yw fod diben i'r hydref ysbrydol, er nad wyf bob amser yn gwbl glir beth ydyw.

Ef, yn anad yr un o'r Piwritaniaid cynnar, a roes y mynegiant mwyaf ysgytiol i'r argyhoeddiad hwn:- Rwi'n rhybuddio pawb, ac yn gweiddi ar bawb.

O dipyn i beth gorseddwyd yr argyhoeddiad deublyg fod Natur yn gyfundrefn fecanyddol yn gweithio yn ôl ei deddfau mewnol ei hunan a bod y bersonoliaeth ddynol, trwy ymarfer ei gallu i ddadansoddi ac ymresymu, yn gallu olrhain ac esbonio'r deddfau hynny a'u defnyddio i reoli byd Natur.

Teimla Justine Merritt yr un argyhoeddiad ynglŷn â'i gweledigaeth ddiweddaraf.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Yn y pen draw, ni wna gor-lywio pwnc neu sefyllfa sy'n gwbl gyffredin ond agor bwlch argyhoeddiad rhwng y newyddiadurwr a'i gynulleidfa, a thanseilio ffydd y cyhoedd yn nilysrwydd ei raglen.

Cythruddai rai pobl weithiau trwy ei sel ef a'i argyhoeddiad.

A dyna hefyd yr argyhoeddiad sydd wedi ysgogi pob mudiad cenhadol Cristionogol.

A yw hyn yn gwneud cyfiawnder ag argyhoeddiad pobl yr oes honno fod rhywbeth newydd ac annisgwyl wedi digwydd?

Hawdd iawn oedd cyfieithu'r argyhoeddiad crefyddol hwn yn egwyddor gymdeithasol.

Yr argyhoeddiad Cristionogol oedd i Grst farw tros ddyn ac yn ei le er mwyn ei gymodi â Duw.

Un argyhoeddiad y glynais wrtho drwy'r blynyddoedd yw fod y Drindod Sanctaidd wrth y llyw, ni waeth beth ddywed arwyddion yr amserau.

Gellir gweld yr argyhoeddiad yn brigo mewn llawer pennill ganddo:-

A dyna meddai Ceri Davies, yr argyhoeddiad "a barai fod ymboeni ynglyn â'r Gymraeg a'i gramadeg yn bwysig" iddo.

Y mae'r awdur yn siarad o argyhoeddiad personol gydag awdurdod dwyfol gweledigaeth.

Y mae'r ysbryd grasol a milwriaethus hwn tuag at anghredinwyr a'r argyhoeddiad fod yr Efengyl yn rhodd amhrisiadwy i'w rhannu â phawb sydd o fewn cyrraedd yn anhepgor onid yw'r Eglwys Gristionogol i ddirywio'n glwb caee%dig.

Ond nid oes rhaid wrth brofiad newyddiadurol i fedru darllen y newyddion, i wneud bwletin yn gredadwy, ac i ddarllen y naill stori ar ôl y llall yn rhesymegol, yn synhwyrol a chydag argyhoeddiad.

Roedd Jim yn gomiwnydd o argyhoeddiad ac yn ddirmygus o'r teulu brenhinol.