Canys ni cheisiodd Saunders Lewis a'i ddau gydymaith ond cyflawni yn union yr hyn a argymhellir yn awr gan y Tywysog Charles - sef gwarchod y Winllan a roddwyd i'w gofal.
Dywed rhai mae pendraw'r broses a argymhellir fydd dileu'r rheithgor yn gyfangwbl.
Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg.
Argymhellir model asesu gan yr ysgol a chan yr awdurdod fesul cam a chriteria ar gyfer asesu anghenion a datgan arnynt, a chanllawiau ar gyfer trefnu a chynnal adolygiadau blynyddol.
Argymhellir y dylid cefnogi'r canlynol:
Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.
Felly, mynnwn mai'r ffordd effeithiol o ymdrin â'r Gymraeg ydyw trwy gael rhaglen lorweddol sefydlog fel a argymhellir yn y Papur Ymgynghorol ar gyfer Ewrop, Cyfleodd Cyfartal, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.
O fewn y Cynulliad ei hun, credwn y byddai'n fanteisiol iawn sefydlu Pwyllgor arbennig i fonitro a gweithredu'r Polisi Dwyieithog yn yr un modd ag yr argymhellir trefniadau yn y Papur Ymgynghorol i fonitro ymddygiad a safonau aelodau'r Cynulliad.
Cymdeithas Addysg yn y Gwyddorau Argymhellir bod pob myfyriwr gwyddoniaeth yn ymuno â'r ASE.
Pryderwn fod y Pwyllgorau Rhanbarthol a argymhellir ym Mhapur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol, waeth beth fo eu ffiniau, yn debygol o fod yn ddim mwy na siopau siarad.
Argymhellir cyfuno ac ehangu'r rhain fel y byddant yn haws eu defnyddio.
DEFNYDDIO AC ARBED YNNI: Rhaid defnyddio ynni ar gyfer pob gweithgaredd, ac nid yw'r gwaith a gyflawnir neu a argymhellir yn yr Adran neu gan yr Adran yn eithriad.
Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau dynol prin, argymhellir llunio BASDATA, i'w gadw'n gyfredol, a fydd yn cynnwys manylion am: Staffio a) audit o athrawon sydd yn y gwasanaeth addysg Gymraeg ar hyn o bryd, gan nodi eu meysydd dysgu; b) audit o athrawon sydd y tu allan i'r gwasanaeth addysg Gymraeg, ond sydd â diddordeb a chymwysterau, a rhai â diddordeb ac a ddymunai gymwysterau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.