Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arhosai

arhosai

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Arhosai'r rhai yn y naill giw yn amyneddgar i brynu tocyn, ac yr oedd y rheini yn y ciw arall yn disgwyl cyfnewid eu tocynnau am rai o'r ychydig nwyddau oedd ar gael.

Cof plentyn yn unig oedd ganddi amdano a'r cof hwnnw'n ddelwedd o ryw Siôn Corn, un a ddeuai ag anrhegion iddi, ac a arhosai am gyn lleied o amser nes gwneud pob ymweliad yn ŵyl.

Yr oedd y bonheddwr lleol yn gyfreithiwr, yn ystyr fanwl y gair, pan arhosai gartref i weinyddu ei ystad.

Weithiau arhosai i wrando ond ni chlywai ddim ond sŵn y dŵr yn diferu a churiadau ei galon ef ei hun.

Agorwyd arch Ann Parry eto, ac er mawr syndod i'r ardalwyr, arhosai eto heb lygru ac mor brydferth ag erioed.

"Mi rydw i'n colli fy ngwynt yn hawdd heno," meddai'r hen ŵr wrth Rex a arhosai'n nes at ei feistr na'r ddau arall.

Nifer y cleifion a arhosai am wely mewn ysbyty wedi cyrraedd dros filiwn.

Arhosai am arwydd - fi oedd i fod i'w roi, ni fuasai e'n cymryd y cam cyntaf, roedd e'n falch, ac wedi arfer byw heb bobl.

Arhosai'r trên yno am ryw chwarter awr.

Arhosai'r ci ifanc yn ufudd nes yr oedd y lleill wedi mynd o'i flaen.

Ochr yn ochr â'r offeiriaid 'secwlar' hyn - hynny yw, y rhai a arhosai yn y 'byd' er mwyn gofalu am y plwyfi - yr oedd dau fath o wŷr eglwysig a elwid yn 'grefyddwyr'.